Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyfer adfywio canol y ddinas a glannau’r afon Taf, gan gynnwys dros ddwy fil o gartrefi yn Dumballs Road.
Mae’r buddsoddiad ar gyfer adfywio safle’r Ardal Fenter werth £500 miliwn, wrth i’r cyngor gefnogi Bellerophon Partnerships Limited (BPL) a Linc-Cymru Housing Association Limited (Linc) i gyflawni manteision cymdeithasol eang.
Ymysg y 2,150 o gartrefi bydd cymysgedd o dai fforddiadwy a thai ar y farchnad agored, ysgol gynradd, unedau manwerthu lleol, siopau coffi, bariau a bwytai ar lannau Afon Taf. Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle yng ngwanwyn 2015.
Dywedodd Prif Weithredwr BPL, Richard Daley: “Dumballs Road yw’r unig ddarn o dir yng nghanol y ddinas y mae mawr angen ei adfywio, a bu’n anharddu’r dirwedd am rhy hir o lawer.
“Bydd cynllun Adfywio Arglawdd Caerdydd, sydd werth £500 miliwn ac yng nghanol Ardal Fenter y ddinas, yn creu hwb economaidd sylweddol ac yn creu miloedd o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn yr hirdymor.”
Mae Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale yn hyderus bydd y cynllun yn cael effaith bositif.
“Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol o ansawdd,” dywedodd, “ac mae’n gyflawniad sylweddol bod y ddau aelod o’r bartneriaeth wedi llwyddo i wneud hyn heb gyllid sector cyhoeddus.
“Bydd y project yn creu swyddi sydd eu hangen yn fawr, ac yn creu nifer o gyfleusterau newydd a fydd yn gadael etifeddiaeth barhaol i’r gymuned.”
Gallwch ddarllen mwy am gynlluniau’r Cyngor i ddatblygu’r ddinas yn y Cynllun Datblygu Lleol.
sylw ar yr adroddiad yma