Bydd ffyrdd ar gau yn gyfan gwbl yng nghanol dinas Caerdydd o 12.30pm i 5.30pm fory ar gyfer gêm Cymru v Yr Eidal yn Stadiwm Principality.
Bydd mwy o fesurau diogelwch ar waith felly mae’r awdurdodau’n argymell i wylwyr roi digon o amser ar gyfer y daith i mewn i ganol y ddinas ac i’r stadiwm.
Os ydych yn dod â bag, bydd rhaid ei chwilio felly cofiwch y gallai hyn eich dal yn ôl rhag mynd i mewn i’r stadiwm mewn pryd.
Bydd nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 12.30pm a 5.30pm, ond bydd y gwasanaethau parcio a theithio ar gael.
Parcio a Theithio Pentwyn
Mynediad o Gyffordd 29 yr M4
Y man gollwng yw Ffordd Churchill
Cost: £10 y car i’w dalu ar y dydd yn y maes parcio
Parcio a Theithio Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd)
Mynediad o Gyffordd 33 yr M4, yna dilynwch yr arwyddion i’r safle
Y man gollwng yw Ffordd Ogleddol Tresillian (wrth gefn Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog)
Cost: £8 drwy archebu ymlaen llaw neu £10 i’w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio i siopwyr yn rhedeg o Neuadd y Sir o 9am i 6pm. Cost £3 y car.
Dylai cwsmeriaid Parcio a Theithio ddilyn yr arwyddion i’r safle pan fyddant yn cyrraedd.
Bydd staff yn y meysydd parcio o 9am, bydd y meysydd parcio yn agor am 9.30am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 9pm a bydd y maes parcio’n cau am 9.30pm.
Bydd rhaid i fysus barcio yn y Ganolfan Ddinesig (£20 y bws) ac NID yng Ngerddi Sophia
Mae modd bwcio parcio ar gyfer ceir o flaen llaw ar-lein am £12 y car neu bydd y gost yn £15 ar ddiwrnod y gêm.
Bydd parcio dros nos ar gael yn y Ganolfan Ddinesig am £20 y car/fan wersylla wrth fwcio o flaen llaw a £25 ar y dydd.
Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael yng Ngerddi Sophia, am ddim i Ddeiliaid Bathodyn Glas. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn sawl maes parcio preifat. Edrychwch ar y gwefannau perthnasol i weld a oes lle.
Mae modd bwcio parcio o flaen llaw drwy ddilyn y ddolen yma.
National Express
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia yn ôl yr arfer.
Trenau
Bydd system giwio yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog ar gyfer y digwyddiad. Ewch i wefan Trenau Arriva Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Sicrhewch eich bod yn gwybod ym mha res y dylech giwio ynddi ar gyfer eich siwrnai adre cyn i chi ddod i’r digwyddiad. Bydd Gorsaf Heol-y-Frenhines yn cau ychydig cyn diwedd y digwyddiad. Bydd pob trên yn gadael o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.
Bysus
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd ewch i’w gwefan.
Tacsis
Bydd Heol Eglwys Fair Isaf a Heol y Brodyr Llwydion ar gau dros y nos o 8pm i 4am, a bydd staff yn trefnu ciwio ar gyfer tacsis.
Bydd Safle Tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau o 2.30pm ac yn ailagor am 8pm.
Mae mwy o fanylion ar wefan Cyngor Caerdydd.
sylw ar yr adroddiad yma