Mae disgwyl y bydd 74 000 o bobl yn dod i Gaerdydd i weld y gêm rhwng Cymru a Ffrainc nos Wener, sy’n dechrau am 8.05pm.
Bydd mesurau diogelwch ar waith wrth fynd i mewn i’r stadiwm, gan gynnwys chwilio bagiau, felly mae’r awdurdodau’n cynghori i wylwyr y gêm adael digon o amser i gyrraedd eu set.
Bydd ffyrdd ar gau yn gyfan gwbl yng nghanol y ddinas o 6.05pm tan 11.05pm, yn amodol ar faint o bobl sydd yng nghanol y ddinas a diogelwch y dorf ar ôl y gêm.
I gael mwy o fanylion am yr holl drefniadau ewch i wefan Cyngor Caerdydd.
Parcio a Theithio
Bydd staff yn y meysydd parcio o hanner dydd, bydd y meysydd parcio yn agor am 12.30pm a bydd y bws cyntaf yn gadael am 12.30pm.
Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 11.30pm a bydd y maes parcio’n cau am hanner nos.
Parcio a Theithio Pentwyn
- Mynediad o Gyffordd 29 yr M4
- Y man gollwng yw Ffordd Churchill
- Cost: £10 y car i’w dalu ar y dydd yn y maes parcio
- Pellter o ganol y ddinas: 4 milltir
Parcio a Theithio Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd)
- Mynediad o Gyffordd 33 yr M4, yna dilynwch yr arwyddion i’r safle
- Y man gollwng yw Ffordd Ogleddol Tresillian (wrth gefn Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog)
- Cost: £8 drwy archebu ymlaen llaw neu £10 i’w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)
- Pellter o Ganol y Ddinas: 1.8 milltir
Parcio ar Ddiwrnod Gêm yn y Ganolfan Ddinesig
Rheolir mynediad i’r Ganolfan Ddinesig. Caniateir mynediad i barcio ar gyfer y gêm, llwytho ac i gael mynediad i feysydd parcio preifat.
Bydd hyn yn amharu ar: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd
Bydd rhaid i fysus barcio yn y Ganolfan Ddinesig (£20 y bws) ac NID yng Ngerddi Sophia.
Mae modd bwcio parcio ar gyfer ceir o flaen llaw ar-lein am £12 y car neu bydd y gost yn £15 ar ddiwrnod gêm.
Bydd parcio dros nos ar gael yn y Ganolfan Ddinesig am £20 y car/fan wersylla wrth fwcio o flaen llaw a £25 ar y dydd.
Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael yng Ngerddi Sophia, am ddim i Ddeiliaid Bathodyn Glas. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn sawl maes parcio preifat.
Mae modd trefnu bwcio o flaen llaw.
National Express
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia yn ôl yr arfer.
Trenau
Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori pobl i fynd am yr orsaf cyn gynted â phosibl ar ôl y gêm oherwydd mai hyn o hyn o lefydd fydd ar gael oherwydd y gic gyntaf hwyr.
Bydd system giwio yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog ar gyfer y digwyddiad, ewch i wefan Arriva Trains i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd Gorsaf Heol-y-Frenhines yn cau ychydig cyn diwedd y digwyddiad. Bydd pob trên yn gadael o Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.
Bysus Caerdydd
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Bws Caerdydd.
Tacsis
Bydd Heol Eglwys Fair Isaf a Heol y Brodyr Llwydion ar gau dros y nos o 8pm i 4am, a bydd staff yn trefnu ciwio ar gyfer tacsis.
Bydd Safle Tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) ar gau o 6.05pm ac yn ailagor am from 11.05pm. Ni fydd effaith ar Safle Tacsis Lôn y Felin, bydd ar agor drwy’r dydd a’r nos.
O ran unrhyw gwynion ynghylch gyrwyr tacsis yn gwrthod siwrnai neu’n codi ormod, cymerwch fanylion y gyrrwr, rhif y cerbyd, dyddiad, lleoliad ac amser, a rhowch wybod Gyngor Caerdydd dros e-bost i trwyddedu@caerdydd.gov.uk
I gael mwy o fanylion am yr holl drefniadau ewch i wefan Cyngor Caerdydd.
sylw ar yr adroddiad yma