Bydd Cymru yn wynebu’r Alban yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ddydd Sadwrn 15 Mawrth.
Bydd y gic gyntaf am 2.45pm a disgwylir torf o 74,000. Mae Cyngor Caerdydd yn cynghori pobl i neilltuo digon o amser i deithio i’r ddinas ar gyfer y gêm.
Y ffordd orau o deithio i’r gêm yw ar drafnidiaeth gyhoeddus neu fws preifat lle bo hynny’n bosibl. Gall y bobl hynny sy’n teithio mewn car osgoi tagfeydd a thalu llai am barcio drwy ddefnyddio gwasanaeth parcio a theithio’r Cyngor.
Mae gwasanaeth parcio a theithio ar gael yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd (Maes Parcio Melyn), Lecwydd, oddi ar Gyffordd 33 yr M4, am gost o £6 y car.
Bydd y man gollwng a chasglu yng ngogledd Ffordd Tresillian, wrth gefn yr orsaf drenau.
Bydd staff yn y maes parcio o 9am a bydd yn agor am 9.30am, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 6.30pm, a bydd y maes parcio’n cau am 7pm.
Bydd lle parcio ar gyfer bysus ar gael oddi ar Glôs Sophia – bydd mannau parcio penodedig ar gyfer bysus a chyfleusterau ar gyfer gyrwyr. Y pris yw £10 y bws. Codir tâl o £10 i barcio ceir yng Nghlôs Sophia hefyd gan fod y maes parcio o fewn pum munud i’r stadiwm ar droed.
Bydd y ffordd at flaen yr orsaf drenau yn y Sgwâr Canolog o’r gyffordd â Stryd Wood ar gau rhwng 10am a 10pm, gyda mynediad i fysus i’r orsaf fysus yn dilyn y patrwm arferol yn ystod y cyfnodau pan na fydd y strydoedd i gyd ar gau.
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n llwyr rhwng 12.30pm a 6.00pm:
Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd / Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol y Dug.
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
Tudor Street o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr drwy Fitzhammon Embankment).
Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Tudor Street (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr).
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau’n llwyr – Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott
sylw ar yr adroddiad yma