Datganiad gan Gyngor Caerdydd
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi cwblhau ei ailstrwythuro diweddaraf ar y tîm uwch reoli. Bydd y nifer o Gyfarwyddwyr yn lleihau o ddeg i chwech.
Mae’r tîm Uwch Reoli llai yn un sydd yn fwy strategol ac mae’n adlewyrchu’r trefniadau sydd ar waith mewn Dinasoedd Craidd eraill a bydd hefyd yn arbed arian.
Yn rhan o’r gwaith o leihau’r tîm uwch reoli, bydd nifer o gyfarwyddiaethau yn uno. Mae proses recriwtio a dewis, yn cynnwys asesiad annibynnol proffesiynol ar bob ymgeisydd oedd ar y rhestr fer, wedi ei chwblhau, ac o ganlyniad bydd y Cyfarwyddwyr canlynol yn arwain yr adrannau strategol newydd:
- Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Ddinas
- Marie Rosenthal, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tony Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn sôn am y newidiadau i’r uwch dîm reoli, dywedodd Y Cynghorydd Graham Hinchley, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad:
“Rydw i’n falch bod y broses recriwtio a dewis nawr wedi ei chwblhau a bod y strwythur uwch reoli newydd yn ei le. Edrychaf ymlaen at weld y tri Chyfarwyddwr yn parhau i weithio gyda’u cydweithwyr i ddiwallu anghenion Dinas Caerdydd a’i bartneriaid.
“Yn ystod y cyfnod hwn o wasgedd digynsail ar gyllidebau, rhaid i ni wastad chwilio am ffyrdd mwy effeithiol o weithio ac mae penderfyniadau anodd yn anorfod. Yn sgil yr ailstrwythuro bydd pedwar Cyfarwyddwr yn gadael yr awdurdod lleol yn anffodus. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad gwerthfawr i’r Cyngor.”
sylw ar yr adroddiad yma