Ddydd Sadwrn, bydd y Brifddinas yn croesawu Dydd y Farn III i Stadiwm y Mileniwm. Bydd dwy gêm rygbi yn gweld timau rhanbarthol y Dwyrain yn herio rhai’r Gorllewin ar yr un diwrnod, a disgwylir i’r gemau ddenu 45,000 o gefnogwyr i’r ddinas.
Bydd Gleision Caerdydd yn herio’r Gweilch yn y gêm gyntaf am 2.30pm, cyn i’r Dreigiau chwarae’r Sgarlets am 4.45pm.
Mae Cyngor Caerdydd yn argymell i bobl neilltuo digon o amser i gyrraedd y ddinas ac i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a bysus preifat lle y bo’n bosibl.
Gall y rheini sy’n dod â’u ceir i’r ddinas osgoi tagfeydd a chostau parcio drwy ddefnyddio gwasanaeth Parcio a Theithio’r Cyngor o faes parcio Neuadd y Sir am £6 y cerbyd. Mae modd cyrraedd y safle o’r gogledd a’r gorllewin oddi ar yr M4. Bydd y man gollwng ar ochor ogleddol Sgwâr Callaghan, mewn encilfa wrth Eversheds.
Bydd staff yn y maes parcio o 8.30am a bydd yn agor am 9am, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man codi am 8:30pm, a bydd y meysydd parcio’n cau am 9:00pm.
Ni fydd gwasanaeth Parcio a Theithio i’r digwyddiad ym Mhentwyn, lle bydd trefniadau Parcio a Theithio arferol i siopwyr ar waith, nac yn Lecwydd.
Mae mannau parcio i fysus hefyd ar gael yng Nghlôs Sophia mewn maes parcio arbennig i fysus â chyfleusterau i yrwyr. Cost – £15.00 y bws. Codir tâl o £10 i barcio ceir yng Nghlôs Sophia hefyd gan fod y maes parcio o fewn pum munud i’r stadiwm ar droed.
Caiff rhan fechan o Heol y Porth ei chau rhwng 12.30pm ac 8.00pm (bydd Heol y Porth ar gau o Heol y Castell i’r gyffordd â Heol y Parc – bydd Heol y Parc a Heol Scott ar agor), a bydd dargyfeiriadau i rai o wasanaethau Bws Caerdydd – manylion yma.
Mae mwy o fanylion ar wefan y Cyngor.
sylw ar yr adroddiad yma