Cyngerdd i ddathlu goreuon roc a pop Cymru

7 Chwefror 2015

Ar Ddydd Gwyl Dewi fe fydd y Cymro cyntaf i gyrraedd brig y siartau pop yn y DU yn ymddangos ar lwyfan Canolfan y Mileniwm mewn cyngerdd arbennig.

Gwnaeth Ricky Valance greu hanes yn y byd roc a rôl yn 1960 fel y Cymro cyntaf i gyrraedd Rhif Un  gyda “Tell Laura I Love Her”. Ganed Ricky yn Ynysddu yn 1939. Gwerthwyd dros filiwn o gopïau o’r gân hon ac, yn dilyn ei llwyddiant, aeth Ricky ymlaen i ryddhau Movin’ Away, Jimmy’s Girl a Six Boys. Gan ddechrau hanes hir o gerddorion llwyddiannus o Gymru, bydd Ricky yn camu ar y llwyfan ochr yn ochr â sawl un o berfformwyr dawnus Cymru i ail-greu rhai o’n hoff ganeuon o Gymru.

Ricky Valance- y Cymro cyntaf i gyrraedd brig y siartiau pop

Ricky Valance- y Cymro cyntaf i gyrraedd brig y siartiau pop

Alex Jones fydd wrth y llyw ac yn ymuno â Ricky bydd John Owen-Jones a Sophie Evans a fydd yn canu trefniannau arbennig iawn o ganeuon poblogaidd sydd wedi cyrraedd y brig. Yn enwog am ei rolau Jean Valjean yn Les Misérables a’r Phantom yn The Phantom of the Opera, mae John Owen-Jones yn berfformiwr llwyddiannus yn y West End a Broadway. Daeth Sophie yn ail, o blith 10,000 o ymgeiswyr, ar gyfres hynod boblogaidd y BBC ‘Over The Rainbow’. Yna, aeth ymlaen i chwarae rhan Dorothy yn y ‘Wizard of Oz’ yn y London Palladium. 

Steve Balsamo a Rosalie Deighton

Steve Balsamo a Rosalie Deighton

Yn enwog am chwarae’r brif ran yn ‘Jesus Christ Superstar’ yng nghanol y nawdegau, mae Steve Balsamo wedi ymuno â’r gantores a’r gyfansoddwraig Seisnig/Iseldireg Rosalie Deighton gan ffurfio Balsamo Deighton. Bydd y ddeuawd werin hon yn perfformio gyda Jessica Lee Morgan – merch Mary Hopkins (Those Were The Days ac a ymunodd â label y Beatles) a Gabrielle Murphy – un o sêr newydd cynllun Gorwelion y BBC.

Bydd y sêr yn perfformio i gyfeiliant Cerddorfa’r Welsh Pops, gan gynnwys y pianydd Gwilym Simcock, dan arweiniad Matthew Brind.

Sophie Evans

Sophie Evans

Dywedodd Lucy Morgan, Cyfarwyddwr Artistig Wales Pops “Hanner can mlynedd yn ôl y cyrhaeddodd Syr Tom Jones frig y siartiau gyntaf gydag ‘It’s Not Unusual’, a wnaeth i mi feddwl am yr holl ganeuon arbennig eraill sydd wedi cyrraedd y brig a ddaeth o Gymru. Mae’r holl ganeuon hyn yn gyfarwydd iawn i ni ac roeddwn yn gwybod y byddai cyngerdd a oedd yn cynnwys y gerddoriaeth ryfeddol hon yn llwyddiant. Pa le gwell na Chanolfan Mileniwm Cymru a pha ddyddiad gwell na Dydd Gŵyl Dewi i ddathlu cyflawniadau’r cantorion a’r cyfansoddwyr arbennig hynny o Gymru sydd wedi cyrraedd y brig yn y DU a thu hwnt. “Rydyn ni hefyd yn trefnu rhai momentau yn ystod y noson gyda rhagor o westeion arbennig – mae’n datblygu bob dydd!”

Bydd y noson yn cynnwys caneuon enwog gan y Fonesig Shirley Bassey, Ricky Valance, Spencer Davis Group, Mary Hopkin, Dave Edmunds, Shakin’ Stevens, Bonnie Tyler, The Flying Pickets, Manic Street Preachers, Stereophonics, Duffy, ac wrth gwrs Syr Tom Jones – cyrhaeddodd ei gân hynod boblogaidd “It’s Not Unusual” frig y siartiau hanner can mlynedd yn ôl, yn 1965.

Mae’r tocynnau yn amrywio o £17.50 i £35. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i’r wefan

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma