Mae Cymru’n chwarae yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality ar ddydd Sadwrn Chwefror 13, gyda’r gêm yn dechrau am 4.50pm.
Oherwydd trefniadau diogelwch ychwanegol, mae Cyngor Caerdydd yn cynghori i gefnogwyr roi digon o amser ar gyfer y daith i mewn i ganol y ddinas ac i’r stadiwm.
Os ydych yn dod â bag, bydd rhaid ei chwilio a gallai hyn eich dal yn ôl rhag mynd i mewn i’r stadiwm mewn pryd.
Bydd ffyrdd ar gau yn gyfan gwbl yng nghanol y ddinas o 2:50pm tan 8pm. Mae mwy o fanylion am y strydoedd bydd ar gau ar wefan y Cyngor.
Bydd y system giwio yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog yn newid hefyd ar gyfer pob un o gemau’r Chwe Gwlad sydd yng Nghaerdydd, er mwyn dygymod â’r gwaith adeiladu parhaus.
Mae’r Cyngor yn argymell yn gryf bod y sawl sy’n defnyddio’r trenau’n darganfod cyn y gêm pa res giwio y bydd arnyn nhw angen ymuno â hi ar gyfer eu taith yn ôl.
Bydd Gorsaf Heol-y-Frenhines yn cau ychydig cyn diwedd y gêm.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Arriva.
Mae’r Cyngor hefyd yn annog cefnogwyr sydd am ddod â char i’r ddinas i ddefnyddio’r gwasanaethau parcio a theithio a dylai cwsmeriaid parcio a theithio ddilyn yr arwyddion i’r safle o gyrion y ddinas.
Bydd y meysydd parcio yn agor am 9.30am a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 9pm a bydd y maes parcio’n cau am 9.30pm.
Mae modd bwcio parcio ar gyfer ceir o flaen llaw ar-lein am £12 y car neu bydd y gost yn £15 ar ddiwrnod gêm.
Bydd parcio dros nos ar gael yn y Ganolfan Ddinesig am £20 y car/fan wersylla wrth fwcio o flaen llaw a £25 ar y dydd.
Mae llefydd parcio i bobl anabl ar gael yng Ngerddi Sophia, am ddim i Ddeiliaid Bathodyn Glas.
Bydd rhaid i fysus barcio yn y Ganolfan Ddinesig (£20 y bws), nid yng Ngerddi Sophia.
Bydd gwasanaeth parcio a theithio i siopwyr yn rhedeg o Neuadd y Sir o 9am i 6pm am £3 y car.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd ewch i http://www.bwscaerdydd.co.uk/.
Mae rhagor o wybodaeth am y trefniadau teithio ar gyfer holl gemau’r 6 Gwlad ar wefan Cyngor Caerdydd.
sylw ar yr adroddiad yma