Cymru Ar Y Brig

3 Mawrth 2015

Adolygiad Cate Hopkins

Gorffennodd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ddydd Sul gyda sioe ddisglair yng Nghanolfan Y Mileniwm.

Dathlodd Cymru Ar Y Brig pum can mlynedd o pop miwsic o Gymru. Cyflwynwyd y sioe gan Alex Jones, gyda’r Gerddorfa Welsh Pops, a wnaeth y sioe yn cynnwys pob math o ganeuon enwog gan ganwyr Cymraeg.

Roedd y sioe yn hefyd yn dathlu pen-blwydd deng mlynedd y Ganolfan.

Roedd yna ymganddosiad gwadd gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers, seren poblogaidd y West End John Owen-Jones yn ogystal â ymganddosiad gwadd gan Shakin’ Stevens.

Roedd Ricky Valance yna’n canu Tell Laura I Love Her, dim ond wythnos ar ôl iddo gael trawiad mawr ar y galon yn ei gartref yn Sbaen. Er hynny, hedfanodd i Gymru’n arbennig dros y sioe.

Roedd hefyd digon o gyfle i’r sêr newydd o Gymru i ganu ar llwyfan enwog Canolfan y Mileniwm. Roedd yna cantores/cyfansoddwraig Amy Wadge (newid wedi cyrraedd yn ôl o’r UDA) yn canu ei chân rhif un Thinking Out Loud, sef cân a ysgrifennodd hi dros Ed Sheeran yn ogystal â Sophie Evans, seren The Wizard of Oz a phob math o gantorion eraill. Roedden nhw gyda yn perfformio caneuon sydd wedi cyrraedd at rif un yn y siartiau pop, er enghraifft Total Eclipse of the Heart, Green Green Grass of Home a Dakota.

Yn perfformio ar y piano gyda’r gerddorfa (a arweinir gan Matthew Brind o Gaerdydd, sydd wedi cyfarwyddo’r sioeau Women On The Verge of A Nervous Breakdown, Dirty Rotten Scoundrels a Legally Blonde yn ogystal â gweithio’n aml i Britain’s Got Talent, America’s Got Talent a The X Factor) oedd Gwilym Simcock, chwaraewr piano sydd wedi ennill nifer o wobrau wrth chwarae jazz a cherddoriaeth glasurol.

Mynychwyd y sioe gan Syr Emyr Jones Parry GCMG. Wedodd e “Mae wedi bod degawd anhygoel dros Ganolfan Y Mileniwm ac mae heno’r profi bod y dyfodol yn ddiogel â phob math o berfformwyr talentog Cymraeg. Diolch o’r galon i bawb sy’n gweithio mor galed dros y Ganolfan ac i bawb sydd wedi dod i weld sioeau yn y Ganolfan.”

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma