Cyfweliad gyda Betsan Powys: Golygydd Radio Cymru

23 Medi 2014

Yn dilyn cyhoeddi ffigurau gwrando diweddaraf Radio Cymru (a ddangosodd gynnydd yn y nifer sy’n gwrando, o 143,000 i 147,000), cafodd Huw Onllwyn Jones gyfle i gael sgwrs â Betsan Powys, Golygydd yr orsaf ers mis Gorffennaf 2013. Bu’n ei holi am ei gweledigaeth ar gyfer Radio Cymru – yn ogystal a gofyn ambell i gwestiwn am ei magwraeth yng Nghaerdydd – a’i diddordebau.

a) Yr Orsaf a Chaerdydd

Huw: Beth yw dy weledigaeth ar gyfer Radio Cymru – a sut bydd hynny’n siwtio gwrandawyr soffistigedig y brifddinas?

Betsan: Wel, mae gennym wrandawyr soffistigedig ar hyd a lled Cymru! A yw gwrandawyr soffistigedig Caerdydd yn wahanol? Ni wn! Ond mae gennym bob math o wrandawyr – a’r her i ni, fel yr un orsaf Cymraeg, yw i apelio i bawb. ‘Dwi ddim yn meddwl bod gennym ddiffyg ffocws ar Gaerdydd – ond ‘roedd yn bwysig i ni sicrhau ein bod hefyd yn darlledu rhaglenni o’r Gogledd, lle collwyd llawer o wrandawyr dros y blynyddoedd diwethaf – yn ogystal a rhaglenni o’r gorllewin ac o’r de, gan gynnwys Caerdydd. A dyna sydd gennym erbyn hyn. Mae’r hen her yn ein wynebu o hyd, sef gweithio fel gorsaf sy’n darparu ar gyfer pobl gwledig a dinesig, o bob oedran – a gyda gwahanol ddiddordebau. Ond mae’n gliriach nawr gobeithio, o fewn amserlen newydd yr orsaf, ble mae modd i chi ddod o hyd i rhaglenni a fydd o ddiddordeb i chi.

Huw: Wyt ti’n hapus, felly, fod yr orsaf yn adlewyrchu’n well ein bywyd dinesig – a’r bywyd rydym ni’n ei fwynhau yng Nghaerdydd? Er enghraifft, a yw Radio Cymru wedi cynnal ymchwil ymhlith trigolion y brifddinas – er mwyn deall beth yw eu diddordebau?

Betsan: ‘Da ni heb gynnal ymchwil penodol o’r fath. Na ‘chwaeth ar gyfer Caerfyrddin, Aberystwyth, Llanelwy, Bangor neu Machynlleth. Yn hytrach, buom yn siarad gyda’r cyhoedd yn gyffredinol, gan gynnwys y rheini nad sy’n gwrando ar Radio Cymru, neu sydd wedi rhoi’r gorau i wrando. Wedi dweud hynny, ‘da ni’n ymwybodol fod nifer siaradwyr Cymraeg yn codi yng Nghaerdydd a’r De-ddwyrain – a ni allwn fforddio eu colli fel gwrandawyr.

‘Rwy’n gobeithiol y bydd trigolion Caerdydd yn syfrdanu i weld yr ystod o rhaglenni sydd ar gael – a’r nod yw bod pawb yn siŵr o ddod o hyd i raglenni sy’n apelio iddynt. A, beth bynnag, ’dwi ddim yn meddwl fod yna unrhyw bwnc a fydd yn apelio i wrandawyr o Gaerdydd yn unig.

Wedi dweud hyn, efallai bod rhaglen John Walter Jones, a fu’n gweithio i rai o brif sefydliadau’r ddinas, yn helpu dod a llais a persbectif pobl Caerdydd i’r orsaf. Yn yr un modd, mae Gari Wyn, sy’n gwerthu ceir ail law ym Methel ger Caernarfon, yn dod a llais y dref honno i’r orsaf. ‘Rwy’n siŵr, hefyd, y bydd gwrandawyr o Gaerdydd yn mwynhau rhaglenni Gari a Tommo yn ogystal a gwrando ar John Walter.

Huw: Pe byddai rhywun o Gaerdydd, sy’n darllen yr erthygl yma, yn digwydd bod yn llawn syniadau o ran rhaglenni a fyddai o ddiddordeb iddynt, a fyddai modd iddynt gynnig syniadau i ti?

Betsan: Yn sicr, fe fydd hynny o help aruthrol. Ni’n gweithio’n galed i fod yn effro i’r pethau sydd o ddiddordeb i’n gwrandawyr. Mae’r orsaf yn awyddus iawn i adlewyrchu digwyddiadau, bywyd a gwaith Cymru.

Huw: ‘Da ni gyd yn adnabod John Walter, wrth gwrs, ond a oes angen mwy o gyflwynwyr o Gaerdydd ar yr orsaf – er mwyn i ni gael clywed llais yn ddinas yn fwy aml? Rhywun efo acen y ddinas (a ‘dwi ddim yn edrych am waith, gyda llaw!), rhywun sy’n amlwg wedi byw yn y ddinas drwy eu bywyd – ac sy’n deall ni ‘Cardiffians’.

Betsan: Wel, efallai fod pobl fel Huw Stephens yn ateb y galw? Ond pwy neu beth yw ‘llais Caerdydd’ erbyn hyn? Fe fydd yn ddiddorol gofyn y cwestiwn i ystod o bobl yn y ddinas. Mae’n ddinas sydd wedi newid – ac sydd wedi denu llawer o bobl i fyw ynddi. Ond, yn sicr, mae’n rhywbeth i ni ystyried.

Huw: Ie. Diddorol. ‘Rwy’n cofio un boi o Canton (aka Treganna) yn dweud wrthyf ‘You’re not proper Cardiff’, er fy mod wedi byw yma ers yn 3 mis oed! Ond, wrth gwrs, cefais fy magu yn Rhiwbeina – a doedd hwnna ddim yn cyfrif fel ‘Cardiff’ go iawn iddo fe!

b) Yr Orsaf yn Gyffredinol

Huw: A yw Radio Cymru yn ddigon modern, cyffroes, cutting edge a chyfoes? Er enghraifft, o edrych ar y daflen a oedd yn hyrwyddo’r orsaf yn yr Eisteddfod, roedd yn cynnwys lluniau o dri hen ddyn a menyw canol oed.

Betsan: (chwerthin) ‘Dwi ddim yn siŵr beth fyddai ymateb Tudur Owen neu Tommo o gael eu galw’n ‘hen ddynion’! Pwrpas y daflen oedd tynnu sylw at y rheini sy’n cyflwyno pob dydd – ac yn ystod y dydd. Bryd hynny, wrth gwrs, mae llawer o’n gwrandawyr ifanc yn y gwaith neu’r ysgol. Ond pe fyddech yn edrych ar y daflen am C2…

Huw: Ah! Wel, ble oedd taflen C2?!

Betsan: Wel, pe byddet wedi ymweld â Maes B, lle roedd cynulleidfa C2 yn mynd, fe fyddet ti wedi gweld ymgyrch gwahanol gennym. Mae pobl wir yn gwerthfawrogi C2 – ac yn hoff iawn o’r cyflwynwyr. Mae ‘na flas cerddorol gwahanol iawn gan bob cyflwynydd – gyda rhai ohonynt yn chwarae cerddoriaeth arbenigol iawn. Ond, o ran ffigyrau gwylio, ni fyddai C2 bydd yn gallu cystadlu â rhaglenni eraill Radio Cymru. Wedi’r cyfan, mae’n gwrandawyr ni’n rhyw 56 i 58 oed ar gyfartaledd. Wedi dweud hynny, mae cyfartaledd oedran gwrandawyr C2 wedi bod cyn uched a’r deugeiniau! Ein bwriad, felly, yw ceisio denu gwrandawyr iau. Felly, bwriad y daflen a welaist oedd i ddenu cynulleidfa ychydig yn hyn.

Huw: A yw Tudur a Tommo yn ddigon ‘cutting edge’?

Betsan: Tudur Owen – ydy. Fel mae e’n dweud, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ei raglen?! Ac fel mae llwyddiant Broneirion yn dangos, os gewch chi’r fformiwla’n gywir, mae’r hen a’r ifanc yn dod i wrando. Mae Tommo yn sicr yn apelio at gynulleidfa iau. Ond a yw e’n ‘cutting edge’? Na – ond mae e’n sbort. Ac mae ‘na le i’r ddau ac, wrth gwrs, mae’n holl bwysig i ni ddal ati i apelio at ein cynulleidfa craidd a ffyddlon.

Huw: Oes problem technolegol ‘da chi o ran eich signal darlledu? Wrth yrru i’r Eisteddfod o Ddinbych y Pysgod, er enghraifft, roedd y derbyniad yn wael – hyd yn oed yng nghanol Caerfyrddin. O’r herwydd, ‘roedd yn anoddach darbwyllo fy mab 9 oed ei fod yn werth aros ‘da’r orsaf. Gyda’r math yma o broblem – a fydd C2 yn ddigon i’w ddenu i wrando ar Radio Cymru?

Betsan: Roeddwn i’n aros mewn bwthyn ym Mhorth Tywyn – a ‘doedd e ddim ar gael yno ‘chwaith. ‘Dwi’n teimlo bod hyn yn embaras i orsaf cenedlaethol, wrth gwrs. ‘Rwy’n gyrru’n aml i ‘r gorllewin a’r gogledd – ac yn aml yn gorfod brwydro i gael dod o hyd i signal yr orsaf. Ni allwn ddisgwyl i bobl frwydro i’w chlywed! Efallai bod ‘na elfen o’r broblem yn deillio o rannu’r gwasanaeth er mwyn cynnig dewis o chwaraeon (er enghraifft, er mwyn sicrhau fod modd i chi ddewis gwrando ar gem Cardiff City, neu gem Abertawe). Hefyd, wrth gwrs, nid yw radio digidol wedi cyrraedd pobman yn y gogledd orllewin a’r canolbarth – a phrin yw’r nifer o geir sydd a radio digidol.

O ddifrif, fe fyddaf yn falch iawn i gael derbyn enghreifftiau o ble mae’r signal yn wan – er mwyn i mi fynd at y cwmni sy’n gyfrifol am y darlledu, gyda tystiolaeth fod y gwasanaeth yn ddiffygiol – ac i ofyn iddynt ei wella. Ond mae angen mwy o enghreifftiau er mwyn deall y broblem yn llawn – ac er mwyn gwella’r sefyllfa. Plîs cwynwch i ni am hyn.

Fe fydd signal digidol yn y gogledd orllewin erbyn diwedd 2014 gobeithio – ac fe fydd darlledu’n ddigidol yn ein galluogi i weld mwy o wasanaethau cyfrwng Cymraeg, yn hytrach na fod yn dibynnu ar ‘un sianel’ yn unig.

Huw: Beth am ddenu’r ifanc, fel fy mab, yn hytrach na’r deugeiniau sy’n gwrando nawr i C2?

Betsan: Mae’n anodd cael gafael arnynt am amser hir iawn yn y bore gan eu bod yn mynd i’r ysgol mor gynnar. Ond ar ôl ysgol, mae rhaglenni Tudur a Tommo yno i’w denu. A’r fformiwla yw i chwarae llwyth o gerddoriaeth – ac i fod mor ‘cwl’ a phosib. Ond mae ’na gystadleuaeth enfawr – mae fy mhlant, fe wn, yn ffond iawn o Kiss FM – a dyna’r her sy’n ein hwynebu. Ond mae ‘na lot o waith yn cael ei wneud – megis rhaglenni fel un Huw Stevens a sicrhau ei fod yn dod yn haws i lawrlwytho cerddoriaeth Gymraeg. Mae gennym bobl yn ymweld ag ysgolion uwchradd yn gyson, i gyflwyno’r plant i fandiau Cymraeg ac, wrth gwrs, mae’r orsaf yn cefnogi Brwydr y Bandiau.

Huw: Wyt ti’n hapus ‘da’r ffigyrau gwrando? Ble nesa’?

Betsan: Pan sylweddolais fod y ffigyrau diweddaraf i’w cyhoeddi ar y dydd Iau cyn yr Eisteddfod fe suddodd fy nghalon rywfaint. Ond fe ddaeth rhyddhad a chalondid wrth weld fod y ffigyrau wedi codi. Ac mae’r newid yn uchel i ni. Mae gan Radio 2, wrth gwrs, dros 1miliwn o wrandawyr yng Nghymru – ac mae’n anodd gweld sut gallwn frwydro yn erbyn, er enghraifft, poblogrwydd Chris Evans yn y bore. Felly, yn y cyswllt yma, mae codiad o 4,000 yn aruthrol i ni – ac yn dangos fod rhywbeth yn plesio. Ond ‘da ni’n disgwyl i’r ffigyrau sefydlogi rhywfaint – dyna yw’r patrwm arferol – ond fe fyddwn yn brwydro i gadw’r gwrandawyr newydd. Mae unrhyw ffigyrau gwrando yn naturiol yn codi a disgyn – ond mae ‘na rhyw banic yn cydio yn y Cymry Cymraeg wrth iddynt ddisgyn. Yn hytrach na phanicio, hoffwn i bobl dal ati i ddweud wrthym beth mae nhw am glywed ar yr orsaf – er mwyn i ni geisio ymateb i’w dyheadau.

Huw: A yw’r balans yn iawn rhwng trafod materion Cymreig a materion eraill (megis materion Prydeinig, byd-eang, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg)? Beth am drafod ffilmiau Hollywood, neu CD newydd Adele?

Betsan: Mae hwn yn benbleth – ac amrywiol yw ymateb ein gwrandawyr i unrhyw ffocws ar bethau tu hwnt i Gymru. Ond mae straeon Prydeinig a byd-eang yn gweu i fewn i fywyd a gwleidyddiaeth Cymru. Er enghraifft, beth fydd dylanwad refferendwm yr Alban arnom ni? ’Da ni wedi comisiynu cyfresi am hyn, a materion Prydeinig a byd-eang eraill, o bersbectif yr effaith arnom ni. Ond mae’n gwestiwn diddorol i ni, ac i Radio Wales. A ydym yn cael y balans yn iawn rhwng straeon am Gymru a straeon rhyngwladol?

Huw: A fydd modd i mi wrando ar rhaglen ar Radio Cymru wythnos nesaf (heblaw am y bwletin newyddion) yn trafod y sefyllfa yn Gaza?

Betsan: Mae cyflwyno rhaglenni hanner dydd o drafod wedi cynnig mwy o gyfle i ni wneud hyn. Mae ‘na fwy o amser yn yr amserlen i drafod ein ymateb ni i bethau sy’n digwydd tu hwnt i Gymru. Ac mae gennym, fel mae’n digwydd, ohebydd yn yr Israel. ‘Dwi ddim yn siŵr os caiff fynd i Gaza, ond mae e yno ar ein ran fel llygad-dyst i’r hyn sy’n digwydd.

Huw: Oes digon o dalent yn gweithio i Radio Cymru? Sut wyt ti am fagu mwy a gwell? Mae Tudur Owen, er enghraifft, gystal ag unrhyw gyflwynydd arall (o’i fath) yn y byd. Oes mwy fel fe?

Betsan: ‘Rwy’n meddwl fod. Un problem yw dod o hyd i’r cartref iawn iddynt ar yr orsaf – er mwyn iddynt fedru gwneud y gorau o’u talent. Ac mae hynny’n anoddach, wrth gwrs, gan mai dim ond un gorsaf ydym ni. ‘Roedd ‘Cais am Lais’ yn llwyddiannus iawn – a wedi arwain at 80 o bobl yn gyrru cynigion i ni. Mae 4 neu 5 ohonynt bellach wedi cael eu clywed ar yr orsaf, gyda un – Guto Rhun – yn cyflwyno rhaglenni cyson nos Lun a nos Wener . Ond mae ‘na dalent ar gael ar y teledu, ar lawr gwlad ac ar lwyfannau o un pen o’r wlad i’r llall- ac mae angen i ni eu denu i’r orsaf – a pheidio bod ofn brwydro amdanynt.

Huw: Un peth sy’n gallu rhoi pobl off weithio i Radio Cymru yw poeni nad yw eu Cymraeg yn ddigon da. Onid yw’r rheini sy’n galw am ‘Cymraeg pur’ yn rhoi neges i’r gweddill ohonom nad yw ein Cymraeg yn ddigon da i’w glywed a’i defnyddio? Ydy nhw’n beryg – ac yn risg i’r iaith?

Betsan: ‘Rwy’n meddwl fod yr amserlen yn dangos yn glir nad yw Radio Cymru yn perthyn i un garfan yn unig. Rydym ni am i’r orsaf fod yno i’r rheini sy’n gallu treiglo’n berffaith, yn ogystal â’r rheini sy’n meddwl nad yw’n orsaf i nhw, ‘gan nad yw eu Cymraeg yn ddigon da’. Nid yw Cymraeg Tommo yn berffaith, er enghraifft (er, mae’n gwella) – ond mae pobl yn ei hoffi gan eu bod yn teimlo ei fod yn siarad eu hiaith nhw, ac mae’n Gymro i’r carn. Mae rhaid i Radio Cymru, fel llais Cymru, gynnig rhywbeth i wrandawyr, beth bynnag yw eu gallu ieithyddol

Huw: Mewn soundbite, beth yw dy neges i’r rheini sy’n cwyno am iaith Tommo?

Betsan: Nid yw Radio Cymru yn perthyn i unrhyw garfan penodol. I’r rheini sydd yn poeni am safon eu Cymraeg, mae Radio Cymru yn cynnig cartref croesawgar iddynt.

Huw: Gan ddilyn yr un math o thema, oes modd i ni glywed mwy o gerddoriaeth gwych, byd-enwog, megis y Stones, Pink Floyd a Primal Scream? Beth sydd o’i le efo plantos Cymru yn gwrando i hwnnw, ond efo cyflwynwr yn ei gyflwyno’n Gymraeg?

Betsan: Mae Tommo’n chwarae 6 can Saesneg pob prynhawn, rhywbryd yn ystod ei rhaglen. Mae hynny’n digwydd er mwyn ceisio denu –pobol, yn cynnwys pobol ifanc a phlant sydd, efallai, ddim yn gyfarwydd â bandiau Cymraeg. Mae’n benderfyniad mawr i roi rywfaint o ganeuon Saesneg yn y prynhawn ar Radio Cymru, ond mae yno i ddenu’r llai cyfarwydd a’r ifanc sydd yn fwy cyfarwydd a bandie Saesneg. Mae rhywfaint o ganeuon Saesneg ar C2, a mae darlledwyr fel Tudur Owen yn chwarae recordiau Saesneg. Wedi’r cyfan, fel mae e a’r criw yn dweud, mae’n gerddoriaeth reodden nhw’n gwrando arno pan yn ifanc, felly pam lai? Ond gallaf ddeall fod hyn yn anathema i rai – ond rydym yn chwarae cerddoriaeth Saesneg i bwrpas penodol, sef denu mwy o bobl i’r orsaf a, thrwy hynny, i glywed mwy o siarad a chanu yn Gymraeg.

Huw: Ydy chi’n derbyn llawer o gwynion am safon y Gymraeg a’r defnydd o ganeuon Saesneg, neu dim ond yr usual suspects sy’n cwyno?

Bestan: Llawer llai na mae pobl yn disgwyl dwi’n amau. Rwy’n trio ateb bob un ac egluro pam ni’n gwneud e.

c) Betsan Powys

Huw: Sut mae dy fagwraeth yng Nghaerdydd wedi dylanwadu arnat? A yw e’n dod trwodd yn dy swydd bresennol?

Betsan: Yn sicr, rwy’n un o Gymry Caerdydd – ac roedd fy magwraeth yno – a fy rhieni, wrth gwrs – yn ddylanwad bwysig arnaf. Bum yn byw yn Nhregarth hefyd – ac fe welais y gwahaniaeth rhwng y lle hwnnw a Chaerdydd – a rhwng Ysgol Tryfan ac Ysgol Llanhari. ‘Rwyf hefyd, bellach, yn rhiant yng Nghaerdydd. Ond mae’n anodd i mi wybod yn sicr sut mae hyn oll wedi dylanwadu arnaf. Pwy ydywf i – ac i ba raddau mae fy magwraeth wedi effeithio ar hynny?

Mae Caerdydd, wrth gwrs, yn ddinas sy’n croesawu pobl o bob ran o Gymru i fyw yma – ac efallai fod hynny wedi sicrhau fy mod yn awyddus i ‘gynnwys’ pawb, o bob rhan o Gymru, wrth ddatblygu Radio Cymru. Ac efallai fod byw yn y ddinas wedi fy ngwneud yn berson sy’n gallu ymladd yn galed am yr hyn rwyf am ei gael.

Huw: A fedri di rannu efo ni ffilm, llyfr a record sydd wedi creu argraff go fawr arnat. A pham?

Bestan: Llyfr? Ble i ddechrau? ‘O! Tyn y Gorchudd’, neu hyd yn oed y cyfieithiad, sef ‘The Life of Rebecca Jones’. Llyfr ffuglen, wrth gwrs – ac un sydd heb fy ngadael. Ond ar y brig, efallai, ‘The Life of Garp’ neu ‘A Prayer for Owen Meany’ gan John Irving. Fe ddarllenais hwn pan oeddwn yn Awstria, yn astudio Almaeneg – ac ‘roedd John Irving yn ‘sgwennu am y wlad honno. Mae’n awdur anhygoel; un lle rwyf yn disgwyl yn eiddgar am ei lyfr nesaf – ac yn ei phrynu a’i darllen ar unwaith.

Huw: Beth am ‘Fifty Shades of Grey’?

Betsan: ‘Dwi heb ei ddarllen, a dweud y gwir!

Huw: Pleser i ddod, siŵr o fod! Dy hoff record?

Betsan: Hmmmm….ummm…

Huw: Mae Radio Cymru’n chware lot o recordiau?!

Bestan: Ydyn! Rwbeth gan Endaf Emlyn, Eliffant, Dr Hywel Ffiaidd, Edward H – pethau o’r cyfnod hwnnw rwy’n eu cofio. ‘Roeddwn yn gwybod y caneuon i gyd. ‘Roedd yn gyfnod arbennig.

Huw: Ffilm?

Betsan: Wel, dyma ateb soffistigedig gan merch o Gaerdydd…! ‘The Tin Drum’, ffilm o lyfr Gunter Grass. Honno oedd y ffilm cyntaf i mi ei weld yn Almaeneg a’i deall. ‘Roeddwn yn teimlo fy mod wedi croesi rhyw ffin!

Huw: Wnest ti ddim edrych ar yr isdeitlau?!

Betsan: Efallai fy mod wedi twyllo ychydig!

Huw: ‘Rwy’n cofio gorfod cyfieithu llythyrau Pliny ar gyfer fy ngwaith cartref Lladin. ‘Roedd yn broses ofnadwy, nes i mi ddod o hyd i’r ‘Penguin Collected Letters of Pliny’. ‘Roedd yn haws o lawer, wedyn, cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg!

Betsan: Yr ail ddewis fyddai ‘Grease’. ‘Rwy’n dal i’w wylio’n gymharol gyson!

Huw: A dyma’r cwestiwn olaf. Oes gen ti gyfrinach?

Betsan: Oes! ‘Rwy’n casglu sticeri pel droed ‘Panini’. ‘Roeddwn arfer dweud mae fy mab oedd yn eu casglu, ond erbyn hyn, gan ei fod yn fy meirniadu am wario gymaint o arian arnynt, ‘roedd raid i mi gyfaddef mae fi sy’n eu casglu! Mae Panini wedi cyffwrdd rhywbeth ynof. ‘Rwyf wrth fy modd ‘da fe – ac wrth fy modd ‘da’r pobl ‘rwy’n cwrdd wrth rannu sticeri. Mae rhaid i bob sticer fod yn hollol syth yn ei sgwâr. Mae cael un sgleiniog yn rhoi gwefr trwyddof – ac mae’n rhaid troi’r tudalennau’n ofalus iawn rhag ofn i chi sbwylio’r llyfr. ‘Dwi ddim yn gwybod be mae hyn yn dangos amdanaf, ond ‘rwyf wedi gorffen fy Mhanini eleni’n llawen.

Huw: OCD?

Betsan: Falle mai dyna lle mae wedi dod i’r golwg! A sythu tywelion yn y bathroom. Allai ddim dioddef rhai sydd dim yn syth!

Huw: Diolch yn fawr am d’amser.

Betsan: pleser!

Casgliadau

Nis oes unrhyw amheuaeth gennyf. Mae Betsan Powys yn ‘sharp cookie’ – ac mae Radio Cymru yn lwcus iawn i’w chael. Peth da yw cael rhywun wrth y llyw sy’n awyddus i rhoi trefn ar bethau (boed yn orsaf radio, sticer panini neu dywel). Wedi dweud hynny, mae’n wynebu her aruthrol wrth geisio sicrhau fod ein gorsaf radio aml-bwrpas yn gallu cystadlu efo Radio 2, Radio 6, Kiss FM a mwy.

Ond, erys rhyw amheuaeth yn fy meddwl am yr angen i Radio Cymru roi fwy o sylw i Gaerdydd. Wedi’r cyfan, dyma’r brif-ddinas. Yma mae’r penderfyniadau pwysig am ddyfodol Cymru yn cael eu gwneud. Yma mae’r prif sefydliadau – ac yma fe welir y gorau o fyd y celfyddydau, chwaraeon a bywyd dinesig. Mae angen i Radio Cymru rhoi mwy o sylw i’r brif ddinas, er mwyn atgyfnerthu ei statws fel dinas bwysig yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn Ewrop.

Hoffwn, hefyd, weld Radio Cymru’n talu mwy o sylw i’r byd sydd tu hwnt i Gymru fach. Mae’n iawn i Radio Wales ganolbwyntio ar ein gwlad (gallwn glywed rhaglenni Saesneg am weddill y byd ar sawl gorsaf a chyfrwng arall) – ond, heblaw am Radio Cymru, ble arall gallwn wrando i raglenni yn Gymraeg? Os ydym am glywed am ffilm mwyaf diweddar Martin Scorsese, neu CD newydd Rod Stewart, neu lyfr newydd Hilary Mantel (er enghraifft) – a yw’n beth ofnadwy i’w trafod yn y Gymraeg?

Mae angen i’n plant weld fod modd gweld y byd i gyd drwy lygaid Radio Cymru. Fel arall, mae ‘na beryg y bydd yn aros yn eu meddyliau fel gorsaf bach plwyfol. Hogia’r Wyddfa, cystadleuaeth cwn-defaid Beddgelert a chlwb rygbi Nantlle – yn hytrach na Rise of the Planet of the Apes, Glastonbury a llyfr newydd Jo Nesbo.

Ie, mae’n bwysig i ni glywed fod y Cynulliad newydd drafod y ddarpariaeth o drafnidiaeth i ysgolion a cholegau yng Nghymru. ond mae’n bwysig, hefyd, fod Radio Cymru’n ein haddysgu am y byd tu hwnt i Glawdd Offa.

Go Betsan!

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma