Mae Stonewall Cymru yn chwilio am Weinyddwr Swyddfa ymroddedig i weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr i reoli cyfleusterau’r sefydliad a’i weithgareddau dydd i ddydd.
Bydd y swydd yng Nghaerdydd a bydd yn cefnogi tîm Stonewall Cymru i gyflawni amrywiaeth eang o brosiectau. Bydd angen o leiaf ddwy flynedd o brofiad gweinyddol gyda sgiliau trefnu ardderchog a gallu amlwg i roi sylw i fanylion. Mae gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl yn hanfodol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r ffurflenni cais.
Dyddiad cau cyflwyno ceisiadau yw 12.00yh ar ddydd Mawrth 22 Ebrill. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn anfon y ffurflen dadansoddi recriwtio yn ôl gyda’ch cais.
Anfonwch eich cais dros e-bost i B.Spear@stonewallcymru.org.uk. Fel arall gallwch anfon eich cais drwy’r post at Bethan Spear, Stonewall Cymru, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9SB, gan ysgrifennu ‘cwbl breifat’ ar yr amlen.
sylw ar yr adroddiad yma