Os ydych chi’n frwd dros chwaraeon, yn 16 oed neu hŷn ac yn awyddus i helpu digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf Cymru, mae trefnwyr Gemau Cymru eisiau clywed oddi wrthych chi!
Cynhelir Gemau Cymru eleni mewn gwahanol leoliadau ledled Caerdydd o ddydd Gwener 30 Mehefin tan ddydd Sul 2 Gorffennaf ac mae’r trefnwyr yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer y digwyddiad.
Bydd y rhai sy’n gwirfoddoli’n gweithio fel Cynorthwywyr Cystadlaethau neu Gynorthwywyr Gweinyddol.
Mae’r cyntaf yn cynnwys amserwyr, canolwyr a dyfarnwyr.
Bydd yr olaf yn cynnwys cofrestru cystadleuwyr, gwerthu rhaglenni a stiwardio
Gall gwirfoddolwyr gofrestru yma neu fynegi diddordeb drwy un ai ffonio 029 2020 5283 neu e-bostio: info@thesportshub-cardiffcom
Gemau Cymru yw’r gystadleuaeth chwaraeon ddwyieithog flynyddol ar gyfer talentau newydd Cymru.
Mae’r amrywiaeth eang o chwaraeon yng Ngemau Cymru yn cynnwys Rhwyfo, Codi Pwysau, Canŵio, Athletau, Gymnasteg, Jiwdo, Pêl-rwyd, Tennis Bwrdd, Hoci a Threiathlon.
Caiff athletwyr eu dewis gan gyrff llywodraethu priodol pob camp a byddant yn aros yn y Pentref Athletwyr yng Nghaerdydd yn ystod y digwyddiad
sylw ar yr adroddiad yma