gan Rhys Lloyd
Mae gan Theatr y Sherman gynnig arbennig i holl ddarllenwyr, dilynwyr a thrydarwyr ffyddlon Pobl Caerdydd.
Mae’r theatr yn cynnig tocynnau i weld perfformiad o’i sioe Nadolig newydd sbon Corina Pavlova a’r Llew sy’n Rhuo – am £5 yn unig!*
Mae’r cynnig ar gyfer perfformiad dydd Sadwrn y 9fed o Dachwedd am 11yb. Mae’r sioe yn addas ar gyfer plant rhwng 3 a 6 oed.
Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud i sicrhau eich tocyn yw ffonio Theatr y Sherman ar 029 2064 6900 a dweud y gair ‘LLEW’.
A dyna fo. Mae mor rhwydd a hynny. Felly ffoniwch a mynnwch eich tocyn heddiw!
Am beth mae Corina Pavlova a’r Llew sy’n Rhuo?
Mae Siop Anifeiliaid Anwes Mr McAlistair yn unigryw. Dyma’r unig siop anifeiliaid anwes yn y byd lle mae’r anifail anwes yn eich dewis chi!
Felly, pan mae Mr McAlistair yn addo dod o hyd i anifail anwes perffaith i Corina Pavlova ar gyfer y Nadolig, ni all Corina aros i ddarganfod beth y gallai fod. Cath fach? Neidr? Sebra, efallai?
Ymunwch â Corina ar antur gyffrous, yn llawn anifeiliaid o bob siâp a maint mewn gwledd Nadoligaidd yn llawn canu, dawnsio a rhuo!
*Gweithredir amodau a thelerau ar y cynnig. Nid yw’r cynnig £5 ar gael ar gyfer unrhyw berfformiad arall. Ni ellir ei drosglwyddo. Amodol yn ôl argaeledd. Nid yw’r cynnig i’w gael arlein.
sylw ar yr adroddiad yma