Roedd na dorf mawr yn disgwyl ar Pier Penarth dros y Sul – yn aros yn eiddgar i fynd ar fordaith ar hyd yr afon Hafren a chamu nôl mewn amser i fwynhau profiad arbennig.

Teithwyr ar Pier Penarth
Bu’r Balmoral a’i chwaer llong, y Waverley yn longau cyfarwydd iawn ar un adeg yn y 60au a’r 70au yn cludo teithwyr o’r Barri, Casnewydd, Penarth a Chaerdydd ar hyd yr Hafren.
Adeiladwyd y Balmoral ym 1949 gan gwmni Red Funnel o Southhampton, yn bennaf i gludo teithwyr i Ynys Wyth.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach fe’i throsglwyddwyd i gwmni White Funnel P & A Campbell lle buodd hi’n morio ar hyd glannau de Lloegr ac ambell i dro i Ogledd Cymru o gwmpas Llandudno. Cafodd ei gwerthu ar ôl i’r cwmni gau a threuliodd sawl blwyddyn fel tŷ bwyta yn Dundee.
Ond yn 1985 fe brynwyd hi gan gefnogwyr y Waverley- y rhodlong (paddle steamer) hynaf yn y byd- a chyda arian y Loteri, mae gwirfoddolwyr wedi ei hadnewyddu ac mae wedi cael ail fywyd yn cario ymwelwyr unwaith eto dros yr hâf i fwynhau golygfeydd y glannau.
Erbyn hyn mae wedi cludo dros ddwy filiwn o deithwyr ac, gyda stemar olwyn y Waverley , yn cadw y traddodiad o wibdeithiau dydd arfordirol yn fyw.
Gyda chymorth gwirfoddolwyr a chyngor Bro Morgannwg a Phenarth, dros yr hâf mae stemar cwmni y White Funnel Fleet , y Balmoral wedi bod yn hwylio ar hyd y glannau De Cymru i fynd a thwristiaid i drefi lan môr fel Porthcawl, Ilfracome ac ynys Wair (Lundy).
Ar ei bwrdd fe gewch sylwebaeth yn amlygu nodweddion diddorol yr arfordir tra’n ymlacio ar y dec. Mae diodydd ar gael y Lolfa o gyfnod Art Deco yn ogystal â phryd o fwyd hamddenol ac os brynwch chi gerdyn post o’r siop byddwch yn derbyn stamp Balmoral arbennig.
Mae amryw o deithiau yn gadael Penarth yn ystod yr wythnosau nesaf, am yr amserlen ewch i’r wefan
sylw ar yr adroddiad yma