Mae Clwb y Diwc yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed, ac i nodi’r achlysur, mae penwythnos arbennig wedi ei drefnu ar 20 a 21 Medi. Mae ganddo chi gyfle arbenning i ennill pâr o docynnau penwythnos – am ddim.
Artistiaid nos Wener 20 Medi fydd Al Lewis Band, Gwyneth Glyn a Greta Isaac a’r MC fydd Huw Stephens
Artistiaid nos Sadwrn 21 Medi fydd Jess, Jessop a’r Sgweiri a Castro a’r MC fydd Richard Rees.
Bydd y ddwy noson yn dechrau am 8.00 ac mae’r tocynnau ar werth yn Caban am £10 y noson neu £15 am y penwythnos.
I ennill pâr o docynnau penwythnos, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dweud wrthym pwy oedd yr artist cyntaf i berfformio yng Nghlwb y Diwc?
a) Heather Jones, b) Elin Fflur neu c) Gwyneth Glyn
Anfonwch eich atebion at: clwbydiwc@gmail.com.
Tynnir yr enw buddugol allan o het ddydd Llun 16 Medi. Y wobr yw pâr o docynnau penwythnos ac ni ellir eu cyfnewid am arian.
sylw ar yr adroddiad yma