Mae dylanwad enfawr a chyson Geraint Jarman ar gerddoriaeth Gymraeg dros yr hanner canrif ddiwethaf yn amlwg. Mae’r cyfansoddwr, bardd, perfformiwr a chynhyrchydd teledu wedi cael effaith ddiffiniol ar ein diwylliant.
Mi fydd Geraint Jarman yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach ar nos Sadwrn, 1af o Fawrth, ac yn ei gefnogi fydd Gwenno.
Trwy haelioni Clwb mae gan Pobl Caerdydd ddau docyn i’w hennill ar gyfer y gig.
Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud i’w hennill ydy ateb y cwestiwn yma:
Beth ydy enw albym ddiweddaraf Geraint Jarman?
Anfonwch eich ateb at helo@poblcaerdydd.com erbyn 12.00y.h. dydd Llun, 27ain o Chwefror.
Geraint Jarman
Gwenno
Nos Sadwrn 1af o Fawrth 2014
Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd
8:00pm – 11pm
Tocynnau: £10
sylw ar yr adroddiad yma