Mi fydd Caerdydd yn croesawi gwyl rhyngwladol Womex 13 fis Hydref ond beth yn union fydd hyn yn golygu i Bobl Caerdydd? Angharad Wynne, swyddog y wasg sy’n rhoi’r ‘low down’:
Beth yw Womex?
Mae nosweithiau Gŵyl Arddangos Ryngwladol WOMEX ychydig fel mynd ar wyliau cerddorol o amgylch y byd. Mae pob cornel o’r byd yn cael ei chynrychioli, ac mae’n gyfle i ddarganfod bandiau gwirioneddol ardderchog, i gael eich syfrdanu gan amrywiaeth y doniau cerddorol a rhyfeddu at offerynnau hynod a dieithr o wahanol ddiwylliannau. Bydd y bariau yn agored, bydd digon o luniaeth ar gael a bydd awyrgylch o ddathlu yn llenwi’r Bae.”
Ac yn hwyrach?
Yn ogystal â’r sesiynau arddangos byw, ar nos Wener a nos Sadwrn, bydd croeso i bawb ddod i ddawnsio drwy’r nos yn nosweithiau DJ WOMEX 13 yn y Glee Club ym Mae Caerdydd, pan fydd Antie Flo (DU), DJ Caise (Nigeria /DU), iZem (Iwerddon / Portiwgal), Mitú (Columbia) a Mr Toubab & Cucurucho (Ffrainc / Sbaen) yn mynd amdani yn ystod y rhaglen.
Ond beth am gerddorion o Gymru?
Fydd yr wyl yn dechrau gyda chyngerdd agoriadol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, 23 Hydref, am 8pm. Cerys Matthews yw’r cyfarwyddwraig aristig ac fe fydd hi yn perfformio ynddi ynghyd a nifer o brif ddehonglwyr traddodiadau cerddoriaeth Cymru, ac yn eu plith: Cass Meurig, Gwenan Gibbard, D n A , Georgia Ruth , Patrick Rimes , Siân James , Robin Huw Bowen, cywaith Cymru-‐India rhwng Gwyneth Glyn a Tauseef Akhtar, ‘Ghazalaw’, Twm Morys a mwy. I gael manylion llawn y cyngerdd a rhestr yr artistiaid fydd yn ymddangos ewch i wefan Cerdd Cymru Am docynnau ffoniwch y Ganolfan 02920 636464 neu ewch i’w gwefan Pris y tocynnau: £25
Ac ar lwyfan Gorwelion yn y Ganolfan fe fydd Catrin Finch a Seckou Keita, 9Bach a Georgia Ruth hefyd yn perfformio yn ystod yr Wyl.
Tipyn o sbloets te?
Ma hwn yn ‘coup’ i Gaerdydd- dim ond unwaith mae Womex wedi bod i Brydain ac fe arweiniwyd y cynnig i gynnal WOMEX yng Nghaerdydd gan Cerdd Cymru: Music Wales. Caerdydd a ddaeth i’r brig a hynny yn dilyn cystadleuaeth galed yn erbyn naw o ddinasoedd blaenllaw Ewrop.
Mae tocynnau WOMEX bellach ar werth drwy Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 02920636464 neu drwy’r wefan . Pris £17 ymlaen llaw, £22 ar y diwrnod. Os hoffech fynychu sesiynau Gŵyl Arddangos WOMEX ar y tair noson gallwch brynu tocyn tridiau am £45 o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru.
sylw ar yr adroddiad yma