Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai’r gyfarwyddwraig Sara Lloyd sydd wedi ei phenodi fel Cyfarwyddwr Cyswllt newydd y cwmni. Bydd Sara yn ymuno gyda Theatr Genedlaethol Cymru ddechrau mis Mawrth 2014 ac yn gweithio o brif swyddfa y cwmni yn Y Llwyfan, Caerfyrddin.
Yn wreiddiol o Sir Fôn ac ar hyn o bryd yn byw yn Nhreganna, mae Sara wedi gweithio fel actores ers dros ddeng mlynedd mewn theatr a’r teledu. Bydd hi’n wyneb cyfarwydd i wylwyr Gwaith Cartref, fel cymeriad Louise yn y gyfres boblogaidd ar S4C, ac fe fu hi hefyd yn chwarae rhan blaenllaw ym mhennodau cyntaf Y Gwyll/Hinterland yn ddiweddar.
Mae gwaith cyfarwyddo Sara yn amrywio’n eang. Yn 2013, fe gyfarwyddodd ei drama llawn gyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru sef Pridd, gan Aled Jones Williams. Aeth y ddrama un dyn ar daith o amgylch theatrau Cymru yn Nhachwedd 2013. Fe enillodd Owen Arwyn y wobr am yr Actor Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru eleni am ei ran fel Handi Al yn y ddrama. Mae Sara hefyd wedi cyfarwyddo gwaith ar gyfer Cwmni Frân Wen, Sherman Cymru a Dirty Protest. Meddai Sara am ei phenodiad:
“Mae hi’n fraint i gael ymuno gyda thîm Theatr Genedlaethol Cymru. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i ddatblygu a chreu gwaith a chael y cyfle i weithio efo artisiaiaid Cymraeg. Mae’r cwmni yng nghanol cyfnod hynod o gyffrous, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn rhan o ddatblygu gwaith y cwmni ymhellach. Mae’n fraint hefyd i ddilyn yn ôl troed Elen Bowman yn y swydd, gan mai o’i hachos hi wnes i gychwyn cyfarwyddo.”
Bydd Sara yn gweithio yn agos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, Arwel Gruffydd a gydag actorion ac artisiaiad eraill er mwyn datblygu gwaith newydd. Meddai Arwel Gruffydd;
“Rydym yn falch iawn bod Sara’n ymuno gyda ni yma yn Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Sara’n gyfarwyddwraig dalentog iawn – fe brofwyd hynny gyda’i gwaith godidog ar Pridd – ac mi fydd yn gaffaeliad mawr i’r cwmni wrth i ni ddatblygu gwaith newydd a rhaglen artistig gyffrous ar gyfer y dyfodol.”
sylw ar yr adroddiad yma