gan Siân Golden
Cred Gareth Thomas, cyn-chwaraewr rygbi’r undeb a rygbi cynghrair cenedlaethol Cymru, fod gan fechgyn Iestyn Harris ‘gyfle unigryw’ i gynyddu eu proffil yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd a rhoi Cymru a’r gamp ar y map.
Bydd Cymru yn herio Yr Eidal yn eu gêm agoriadol prynhawn fory a yna’n wynebu yr Unol Daleithiau ac Ynysoedd y Cook – hyn i gyd ar dir Cymru. Mae hyn yn le delfrydol i farchnata’r gêm yma, yn ôl Thomas.
Dywedodd: “Er fod rygbi’r gynghrair yng nghysgodion pêl droed a rygbi’r undeb yma yng Nghymru, rhaid cychwyn yn rhywle a pha well lle i gynyddu proffil y gamp o rygbi’r gynghrair yn y wlad na Stadiwm y Mileniwm.”
‘Cynyddu ymwybyddiaeth’
“Mae’n wir nad rygbi’r gynghrair yw’r brif gamp yng Nghymru ond rydym yn gweithio mor galed i gynyddu ymwybyddiaeth o fewn y gymuned; a dwi’n meddwl ein bod yn llwyddo gan mai rygbi’r gynghrair ydyw’r gamp sydd wedi gweld y mwyaf o gynnydd yn y wlad.”
“Nid yw’r Cymry sydd yn chwarae yn fawrion yng Nghymru ond mae ganddynt gyfle i greu hanes a chreu diddordeb mawr o fewn y cyhoedd.”
Mae Thomas, sydd yn lysgennad RLWC2013 a enillodd bedwar cap i’r Dreigiau, yn onest o ran lle mae rygbi’r gynghrair yn sefyll o ran poblogrwydd yn y wlad, ond honnir y bydd cwpan y byd yn gatalydd ar gyfer mwy o gyfranogaeth yn y gamp a gobeithio y bydd y Cymry o ganlyniad yn dangos eu cefnogaeth.
Ychwanegodd: “Mae yna achlysur enfawr yn digwydd yng Nghymru a dwi wedi bod yn canu clod i’r gamp mor uchel ac mor aml ag y gallaf i hyrwyddo rygbi’r gynghrair.”
“Mae’n bodoli o dan gysgod pêl-droed a rygbi’r undeb, a mae’n rhaid delio gyda hynny; ond mae’n ddigwyddiad byd-eang a bydd y byd yn gwylio Stadiwm y Mileniwm ar y diwrnod agoriadol yn ogystal a’r holl gemau eraill.”
“Lle bynnag y gorwedd ffyddlondeb y genedl, cynrychiolir Cymru fel cenedl yn y twrnament hwn a fe ddylai ein gwlad gefnogi’r bechgyn gyda chymaint o angerdd ag y byddent mewn unrhyw gystadleuaeth arall. Ond mae gan y chwaraewyr hefyd gyfrifoldeb ac fe allen nhw greu eu penawdau eu hunain gan ddechrau y prynhawn yma.
“Mae’r cyhoedd wedi cymryd at RLWC2013 ac mae llawer o negeseuon da ar gyfer rygbi’r gynghrair yn cael eu hyrwyddo yng Nghymru. Dwi’n cymryd fy swydd o ddifrif ac mae’n rhaid i bobl fel fi fynd allan i werthu’r gêm a danfon y neges o gwmpas y wlad. Mae gwerthiant tocynnau yn cynyddu ac mae’n gyffrous i minnau, ein cefnogwyr a Chwpan Rygbi Cynghrair y Byd.”
‘Hysbyseb aruthrol’
Ni all Thomas, cyn-asgellwr gyda chlwb Crusaders RL, sydd wedi bod yn gefnogwr Rygbi’r Gynghrair ar hyd ei oes, aros am y twrnament i gychwyn ac mae’n rhagweld awyrgylch arbennig yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y Seremoni Agoriadol.
Dywedodd: “Mae’n wych fod yna ddwy gêm yn agor cwpan y byd. Mae cael gêm glasurol Lloegr yn erbyn Awstralia yn eironig ond mae’n hysbyseb aruthrol ar gyfer rygbi’r gynghrair yng Nghymru a gwn y bydd pobl Cymru yn mwynhau hynny. Ni fydd y gêm yn cymryd dim oddi wrth un Cymru yn erbyn Yr Eidal gan fy mod yn meddwl y bydd yn gêm arbennig yn ei rhinwedd ei hun. Mae’r Eidal wedi dod draw gyda charfan gref ag agwedd bwrpasol. Bydd yn arbennig.
“Stadiwm y Mileniwm yw’r stadiwm orau yn y byd. Mae mewn lleoliad delfrydol ac mae yng nghalon y ddinas a bydd yr awyrgylch ar y strydoedd yn cael ei adlewyrchu o fewn y stadiwm.”
“Bydd rhaid i Gymru a Lloegr gymryd mantais o awyrgylch y dorf. Mae gan gefnogwyr rôl arbennig i’w chwarae a bydd cynifer o gefnogwyr Lloegr ag y bydd o gefnogwyr Cymru a byddwn yn eu hannog i fod tu ôl i’r gwledydd cartref. Os gall y cefnogwyr gynhyrchu’r awyrgylch gall wneud gwahaniaeth mawr.”
Cred Thomas y bydd lle rownd go-gynderfynol yn ‘gyrhaeddadwy iawn’ os all Cymru gael buddugoliaeth y prynhawn yma a dywed mai hynny ddylai fod y nôd.
Dywed: “Fel Cymro angerddol byddwn yn falch os cyrhaeddai Cymru y rowndiau go-gynderfynol. Byddai hynny yn dal sylw y genedl. Hyn ddylai fod y nod. Mae gemau anodd yng ngrŵp Cymru ond hoffwn feddwl y gallwn ni eu trechu a chyrraedd y rowndiau nesaf. Gyda chefnogaeth gartref dwi’n meddwl y gallai Cymru ennill yn erbyn Yr Eidal a’r Cook Islands. Gallai hynny droi pethau wyneb i waered. Os gallai’r bechgyn wneud hynny efallai y byddai plant yn gweld fod yna fwy o gyfleoedd heblaw am rygbi’r undeb.”
Am fwy o wybodaeth am RLWC2013, cliciwch yma.
sylw ar yr adroddiad yma