Crys newydd y Gleision: Cyfweliad ecscliwsif gyda Rhys Patchell

22 Gorffennaf 2013

Dechreuodd dydd y lawnsiad fel unrhyw achlysur chwaraeon. Plant a mamau yn rhuthro dros y lle i gael llofnodion chwaraewyr fel Harry Robinson, Rhys Patchell a Matthew Rhys – rhai nad ydynt yn adnabod, ond wedi’u gweld ar y teledu mewn crys glas gyda pel rygbi yn eu dwylo. Gosodwyd her tebyg i’r Brian Moore Challenge, gyda ceg agored Masgot y Gleision fel y targed.

Pawb yn modeli'r crys mewn Flash Mob

Modelau ifanc y Flash Mob

Yna, yn ddisymwth am 2:20pm dyma Flash Mob yn dechrau – criw o bobl  yn dawnsio i gerddoriaeth. Fel un, tynnon nhw eu hoodies i ddatgelu bod pob un ohonynt yn gwisgo’r crys newydd. Uchafbwynt doniol y prynhawn oedd pan ddechreuodd blaenasgellwr Robin Copeland  ddawnsio gyda’r merched.
Ar ol y symudiadau benywaidd rhyfedd, camodd Copeland (gyda  rhyddhad) i  lofnodi  a chymryd lluniau gyda’r masgot. Er ei fod wedi’i amgylchynnu gan ddynion ar stilts a gohebwyr, fe lwyddodd Aled Jones i gael ychydig o eiriau gyda maswr y Gleision Rhys Patchell.

Rhys Patchell a dau o ffans y Gleision

Rhys Patchell a dau o ffans y Gleision

AJ: Prynhawn da Rhys. Gyntaf oll, sut mae’r flwyddyn diwethaf wedi bod i ti, maswr newydd y Gleision?

RP: Joio mwy na dim byd.Pedwar ar bymtheg ac yn chwarae rygbi proffesiynnol, fi methu credu fe! Fe ddechreuais i yng Nghasnewydd, ac o’n ni’n cryfhau, yn ymarfer a gwella pob wythnos, ond hefyd yn joio pob wythnos. Dwi dal yn mynd yn nerfus cyn pob gêm, gan bod pwysau allanol arna i. Mae’r cefnogwyr yn gwybod pwy ydw i nawr, ac yn disgwyl ambell i beth mewn gemau pob wythnos. Fi hefyd yn disgwyl pethau o’n hunan, felly mae pethau ychydig yn anodd.

Rygbi pert ar y gorwel

AJ: Ar thema lawnsiad y crys newydd a’r newidiadau i’r clwb, beth yw dy deimladau am y maes newydd sy’n cael ei adeiladu ym Mharc yr Arfau?

RP: Edrych ymlaen yn fawr. Dwi’n edrych ymlaen i allu chwarae rygbi mwy deniadol  a rygbi pert. Mi oedd problemau gyda’r hen faes. Llynedd o’n ni’n ymarfer pob wythnos yn meysydd y Vale, a wedyn dod ar gae Parc yr Arfau ac mae’r gameplan yn mynd mas trwy’r ffenest! Felly mae pawb yn edrych mlaen nawr at chwarae ar faes synthetig, yn arbennig gan bydd y bel yn sych am unwaith!

AJ: Beth yw’r disgwyliadau ar gyfer y Gleision nawr, o ran eu targedau am safleoedd o fewn y cynghreiriau nesaf?

RP: Ry’n ni’n bwriadu bennu ym mhedwar ucha’r gynghrair yn bennaf. Yn sicr y disgwyliadau yw ein bod ni’n gwella o’n safle’r llynedd. Top two yn yr Heineken efallai? Gobeithio ennill lle yn  rownd gyn-derfynol cwpan LV, er mwyn symud ymlaen o llynedd.

Rheng flaen y Gleision: Taufa'ao Filise a Matthew Rhys

Rheng flaen y Gleision: Taufa’ao Filise a Matthew Rhys

AJ: O ran dy hun fel chwaraewr, beth yw dy dargedau datblygu ar gyfer y dyfodol ?

RP: Os nad ydych chi’n dysgu pethau o pob gem, rhaid i chi ail-ystyried fel chi’n gweld y gem. Roeddwn i a Xavier Rush yn eistedd lawr yn gyson i weld ar beth oedd angen i mi wella yn wythnosol. Mae lot i fynd cyn fy mod yn cyrraedd safon rhywun fel Johnny Wilkinson, ac mi oedd e’n gwella pob wythnos. Felly ara bach a cario mlaen i fynd, a gobeithio byddai’n cael cyfle eto gyda’r Gleision.

Cael cyfle i wisgo’r crys coch

AJ: Sut oeddet yn teimlo pan gefaist di dy ddewis fel eilydd i Rhys Priestland i fynd ar y daith i Japan?

RP: Bydde’n ni’n dweud celwydd os bydde ni ddim yn dweud bod pawb yn y gynghrair eisiau chwarae dros ein gwlad. Mae gan y Gleision mantra “If you play well for the Blue Jersey, you may get a shot for the Red Jersey”.  O’n ni’n thrilled fy mod wedi cael yr alwad. Mae’n rhywbeth mae pob chwaraewr bach yng Nghymru’n breuddwydio am, i  gael y cyfle i chwarae dros Gymru.

AJ: Sut oedd y profiad o chwarae rygbi rhyngwladol draw yn Japan, i gymharu gyda rygbi rhanbarthol?

RP: O’dd e’n gloi iawn, roedden nhw wedi cael eu hyfforddi’n dda iawn, pob clod iddyn nhw am eu buddugoliaeth. Roeddent yn arbennig ar y dydd ac yn haeddu ennill y gem.

AJ: Yn mynd yn ôl i dy wreiddiau, pryd ddechreuaist ti chwarae rygbi am y tro cyntaf, a gyda phwy?

RP: Dechreuais i lawr yn CRICC dan 8, a dyna oedd fy nghlwb i – nes i fyth symud. O’n ni’n joio’n fawr lawr yna. Roedd pawb yn dysgu sgiliau craidd, ac mae ethos da iawn lawr ‘na.

Diolch i’r athrawon

AJ: Oedd rhywun wedi dy hybu i ddilyn rygbi fel llwybr gyrfa, neu dy ddiddordeb personol oedd y prif ffactor?

RP: Roedd wastad diddordeb gyda Dad, a oedd y ‘mrawd i’n chwarae yn y clwb. O’n i’n ffodus iawn yng Nglantaf, roedd athrawon arbennig gen i, Dai Williams a Ceri Evans yn enwedig. Roedd yn gyfnod lle oedd tim ieuenctid y Gleision yn ymdrechu i wella, a nâth Dai Williams, chwarae teg iddo, ffonio lan a dweud drychwch ar y crwt ‘ma. Felly rwy’n ddiolchgar iawn i Dai Williams, achos heb hynny, na fyddwn i yn y safle yma heddiw.

AJ: Rhys, diolch yn fawr am dy amser

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Siôn yn dweud:

Oes clip fideo o’r flash-mob?

Mae’ crys yn edrych yn debyg iawn i hen un Caerdydd!