Ar y 7fed o Hydref eleni, caiff Caerdydd y fraint o groesawu gemau rhyngwladol Pencampwriaeth Ieuenctid Pêl Rwyd Ewrop. Bydd timoedd dan 21 Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn chwarae tair gêm yr un rhwng 7-9 Hydref, yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Soffia.
Mae hi’n ddigwyddiad arbennig iawn am ei bod hi’n gystadleuaeth lle fydd y gwledydd yn medru cadarnhau eu lle yng Nghwpan Pêl Rwyd Ieuenctid y Byd ym Motswana 2017. Dyma’r tro cyntaf erioed i Gaerdydd groesawu gemau rhagbrofol Cwpan Pêl Rwyd Ieuenctid y Byd.
“Mae hi’n fraint cael croesawu chwaraewyr gorau Prydain o dan 21 oed i’r Brif Ddinas,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl Rwyd Cymru, Sarah Jones.
“Mae hi’n achlysur arbennig iawn i’r chwaraewyr ifanc, i gyd yn edrych ymlaen at sicrhau eu lle yng Nghwpan Ieuenctid y Byd flwyddyn nesaf.
“Mi fydd hi’n benwythnos cyffrous gydag awyrgylch trydanol, a hoffwn wahodd y Cymry i ddod i fwynhau pêl rwyd o’r safon uchaf, ac i gefnogi Cymru yn eu hymgyrch wrth gwrs.”

Carfan tîm Pêl Rwyd Cymru
Mae Pêl Rwyd Cymru yn falch o gyhoeddi’r garfan dan 21 oed o bymtheg chwaraewr, lle caiff y deuddeg terfynol eu henwi i wynebu Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ym Mhencampwriaeth Pêl Rwyd Ewrop yng Nghaerdydd. Y garfan ydy:
Bethan Johnson, Bethan Moore, Chloe Dyke, Chloe James, Eve Wright, Evie Brereton, Fern Davies, Leila Thomas, Lowri Jenkins, Lydia Hitchings, Megan Powell, Miquie Walker-Jones, Morgan Ireland, Rebecca Baker, a Sarah Llewelyn.

Lydia Hitchings o Gaerdydd
Mae Lydia Hitchings yn dod o Gaerdydd ac mae’n chwarae safle saethwr.
Aeth Lydia i Ysgol Gynradd Peterston, Super-Ely ac yna i Ysgol Uwchradd y Bont-Faen. Astuddiodd cwrs sylfaenol Celf yn Academi Celfyddydau Caerdydd. Nawr mae hi yn ei blwyddyn cyntaf ym Mhrifysgol Caerfaddon yn astudio Celf.
“Dwi mor falch fy mod i wedi cael fy newis i’r garfen o bymtheg. Mae’r wythnosau nesaf yn allweddol i’n paratoadau ar gyfer y twrnamaint, a gobeithio caf gyfle i gynrychioli fy ngwlad unwaith eto,” meddai. Darllennwch mwy am Lydia yma.
Trefnir dwy sesiwn hyfforddiant i’r garfan yn wythnosol yng Nghaerdydd, yn ogystal â dwy neu tair sesiwn yn y gampfa gyda hyfforddwyr proffesiynol. Disgwylir i’r athletwyr gadw diet iach a chadw’n heini yn ystod amser eu hunain hefyd. Mae’r rhan fwyaf o’r merched yn fyfyrwyr neu’n ddisgyblion ysgol, ac wedi gweithio’n galed ofnadwy ar hyd eu hoes i gyrraedd y safon uchel yma o bêl rhwyd.
Dewch i gefnogi tîm Cymru rhwng 7-9 Hydref yng Ngerddi Soffia, Caerdydd. Cewch hyd i docynnau yma
[…] Lydia Hitchings wrth ei bodd o fod wedi cael ei dewis i garfan dan 21 Cymru ar gyfer y twrnamaint pencampwriaeth ieuenctid Ewrop fydd yn cael ei ei gynnal yng Nghaerdydd fis […]