Mae’r newyddion fod cwmni Uber wedi cael trwydded i weithredu yng Nghaerdydd wedi codi nyth cacwn gyda gyrrwyr tacsis y brifddinas yn dweud bod eu bywoliaeth yn y fantol. Ond mae un sy’n defnyddio’r ap yn Llundain yn gweld y bydd trigolion ar eu hennill.
“Dwi’n croesawi’r newyddion bod Uber yn dod i Gaerdydd. ” meddai Siôn Davies, 25 oed, sy’n wreiddiol o Benarth ond nawr yn byw a gweithio yn Llundain. Mae wedi bod yn defnyddio’r ap yn aml ac wedi arbed punoedd lawer wrth deithio o amgylch y ddinas pan nad yw’r tiwb yn gyfleus.
“Dwi’n byw yn Lundain, lle ma’r busnes wedi bod yn gweithredu am ryw ddwy flynedd. Mae’r cyfleustra o allu ordro tacsi wrth wasgu botwm ar eich ffon, ac yna peido gorfod talu gydag arian parod, yn symleiddo proses sydd gallu bod yn boenus. Mae’n siwr neith unrhywun sydd ‘dy ceisio ymaldd am dacsi ar St Mary’s Street am 3am nos Sadwrn gydymdeimlo!”
Mae cwmni Uber eisioes ar gael mewn 15 dinas a thref ym Mhrydain ac mae cyngor Caerdydd wedi rhoi trwydded iddo weithredu yn y brifddinas. Mae’r cwmni wrthi’n recriwtio gyrrwyr tra bod cwmniau tacsis Caerdydd yn poeni y bydd Uber yn mynd a’u busnes.
Pan fo Siôn adre’n ymweld a theulu a ffrindiau yng Nghymru, mae’n gweld eisiau cyfleustra Uber. Mae ei frawd Rhodri sydd yn byw a gweithio yn Llundain hefyd yn defnyddio Uber. Mae siwrnai tacsi du o’i waith yn y Ddinas i’w fflat wyth milltir i ffwrdd yn costio tua 50 punt mewn black cab ond ugain punt gyda Uber.
Ar ol lawrlwytho ap i’ch ffôn symudol a chofrestri gan roi manylion eich cerdyn credyd, fe allwch chi ddewis y math o gar i chi moyn i’ch cludo, o gar safonol cyffredin i gar moethus. Mae Uber yn gwybod ble ry chi drwy GPS ac mae’n cynnig dewis o geir agosaf. Pan welwch chi manylion a ‘rating’ y car a’r gyrrwr gallwch ei alw.
Nid Siôn yw’r unig un i groesawi’r posibiliad o’r cwmni yn cweithredu yn Gaerdydd. Mae 773 o bobl wedi holli’r dudalen ‘Bring Uber to Cardiff’.
Meddai Sion: “Yn fwy na chyfleustra , mae prisiau Uber yn tueddu i fod yn llawer rhatach na tacsis du. Mae’n wir bod “surge” (cynnydd) yn y prisiau ar adegau prysur – ond mae’r un peth yn digwydd gyda thacsis traddodiadol. Gydag Uber, mae modd cael amcangyfrif o bris tebygol am eich siwrne cyn ichi ei gymryd. Os nad ydych yn hoffi’r amcan, does dim rhaid ymrwymo.
“I grynhoi– mi fydd Uber yn dod ag elfen o gystadleuaeth bositif i’r “trade” tacsis yng Nghaerdydd, tra’n gwneud ein bywydau’n symlach ‘fyd. Beth sydd ddim i lico?!”
Beth yw barn Pobl Caerdydd?
sylw ar yr adroddiad yma