Ymlaen Clwb Rygbi Cymry Caerdydd!
Rownd Go-Gynderfynol Bowlen Swalec sydd yn gwynebu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd Ddydd Sadwrn yma, Mawrth 22. Yr ymwelwyr yw Clwb Rygbi Nantymoel, pentref lan y cwm o Ben y Bont. Mae’r ddau dim yn yr un Adran – Adran 4 De Ddwyrain, ac eisioes wedi cwrdd unwaith yn y gynghrair eleni. Clwb oedd yn fuddugol y diwrnod hwnnw nol yn mis Tachwedd ar Gaeau Llandaf o 23 pwynt i 17. Ers hynny ma’r clwb wedi mynd o nerth i nerth, ac ar frig yr adran ar hyn o bryd, ac yn profi tymor llwyddiannus yn y Cwpan hefyd.
Dyma taith Clwb yn y Cwpan hyd yma – curo St Josephs (Caerdydd) 15 – 5 i ffwrdd o gatre’n gyntaf ac yna rhoi cweir i’n cymdogion agos o Landaf yn y drydedd rownd – 39 pwynt i 17. Taith i’r gorllewin gwyllt oedd nesa, i Glwb Rygbi Llambed, a dros cant o gefnogwyr yn gwneud y daith lawr yr M4 i weld gêm a chael croeso cynnes gan fois Llambed. Buddugoliaeth arall o 13 pwynt i 3 oedd y sgor terfynol a ‘Clwb’ oedd yn fuddugol yn y canu ac yfed yn y bar fyd!
Ma’r tymor wedi bod yn hynod llwyddiannus mor belled eleni, a’r bwriad a’r gobaith yw parhau ar y llwybr sy’n arwain at ddyrchafiad i Adran 3 ac o bosib taith arall i Stadiwm y Mileniwm ddechrau fis Mai.
Bydd y gic gyntaf ar Gaeau Llandaf Ddydd Sadwrn am 2.30pm, felly dewch draw i gefnogi – a bydd croeso hefyd i bawb am beint yn y Duke, Treganna ar ôl y gêm. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma i weld dudalen Facebook y clwb
Am fanylion pellach cysylltwch â rhys@clwbrygbi.com
sylw ar yr adroddiad yma