Adolygiad The Mirror Crack’d gan Gwenda Richards.
Lluniau gan Helen Murray
Pentre rhywle yn Lloegr, seren Hollywood, llofrudddiaeth, dirgelwch a Miss Marple… dyma yn wir diriogaeth Agatha Christie! Ond os feddyliwch chi eich bod wedi gweld hwn o’r blaen, meddyliwch eto! Mae’r cynhyrchiad diddorol hwn o The Mirror Crack’d, yn y Theatr newydd yn gweddnewid hen fformat mewn ffordd gwbl wreiddiol a chreadigol.
Mae’r set agored ddi-addurn, gyda wal enfawr tryloyw du yn y cefn (lle yn ddiweddarach mae delweddau ffilm a silhouette yn ymddangos) yn dweud wrthom ni’n syth nad cynhyrchiad traddodiadol Agatha Christie yw hwn. Wrth i ni aros i’r ddrama ddechrau, fe welwn yr eiddil Miss Marple (Susie Blake) yn cysgu mewn cadair freichiau ac mae’r olygfa gyntaf yn ddramatig wrth i’r actorion bortreadu breuddwyd dreisgar, gynhyrfus. Nid drama Christie clyd a chynnes fydd hon!

Ail greu Hollywood yng nghefn gwlad Lloegr
Mae actores Americanaidd enwog Marina Gregg (Suzanna Hamilton) wedi symud i dŷ mawr mewn pentref yn Lloegr ac yn y man mae menyw leol yn marw ar ôl yfed gwenwyn a fwriadwyd yn ôl pob tebyg ar gyfer y newydd-ddyfodiad. Mae nai Miss Marple, y Prif Arolygydd Craddock (Simon Shepherd), yn gyfrifol am yr ymchwiliad ond gwyddom mai ei fodryb fydd yn datrys y dirgelwch er gwaethaf ei hoedran a’i gwendid (fe gwympodd hi gan anafu’i phigwrn yn ddiweddar).
Wrth i Miss Marple, ei nai a’r holl dystion adolygu’r digwyddiadau sy’n arwain at y drosedd, caiff y golygfeydd eu hail-greu trwy ddefnyddio cyfres o ôl-fflachiadau. Weithiau caiff golygfeydd eu cyflymu, weithiau byddant yn cael eu arafu ac mae cymeriadau’n symud yn ôl ac ymlaen, gan stopio a dechrau, wrth i ddigwyddiadau’r noson gael eu dadansoddi. Mae’n dechneg wreiddiol iawn a allai fod yn ddryslyd ond dyw hi ddim oherwydd ei bod yn cael ei gwneud cystal, diolch i gyfarwyddo crefftus Melly Still.

Set dramatig y ddrama
Mae’r stori (fel pob plot Christie) yn ffuantus ac yn wirion. Ond pwy sy’n becso? Mae’n debyg bod hynny’n rhan o atyniad Agatha …… dydyn ni ddim eisiau darn o fywyd go iawn, ry’ ni eisiau dianc am ychydig oriau.
Mae’r actio o safon uchel iawn ac mae golygfa deimladwy rhwng Miss Marple a’i ffrind Dolly (Julia Hills) yn arbennig o gofiadwy.
Bydd y cynhyrchiad ffres, egnïol, dyfeisgar hwn yn plesio cefnogwyr hir-sefydlog Christie ac yn llwyddo i ennill nifer o ffans newydd.
Mae The Mirror Crack’d, cynhyrchiad ar y cyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Wiltshire Creative, ymlaen yn y Theatr Newydd tan Ebrill 6. Am fwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i’r wefan.
sylw ar yr adroddiad yma