Gan Meleri Bowen
Mae bwyd yn gyffur pwerus iawn; nid yn unig yn effeithio ein hedrychiad, ond yn effeithio ar sut yr ydym yn teimlo a meddwl.
Dros y flwyddyn ddiwethaf dwi wedi bod yn astudio i fod yn Ymgynghorydd Maeth/Bwyta’n iach. Bob wythnos byddaf yn ysgrifennu erthygl i rannu fy ngwybodaeth bersonol er mwyn ceisio’ch hysbysu a’ch ysbrydoli boed ar ffurf rysáit, cyngor neu wybodaeth gyffredinol.
Dwi’n hoffi cymdeithasu, cerddoriaeth, dawnsio a choginio; a chredaf fod bwyta’n iach yn ffordd o fyw, nid deiet. Nid oes rhaid iddo gymryd dros eich bywyd. A dweud y gwir mae i’r gwrthwyneb. Mae angen amser (amhosib ar brydiau!) i drefnu a meddwl. Does ‘na’m fath beth â’r deiet perffaith, wedi’r cyfan does neb yn berffaith! Yr hyn sydd angen meistroli yw beth yw’ch fersiwn hapus ac iach o’ch hun.
Mae’n rhaid i mi gyfaddef, dwi’n hoffi bwyta byrgyr yn Chapter ac yfed peint yn Dempseys, a hynny oherwydd dwi’n credu bod angen cydbwysedd mewn bywyd. Credaf fod cyfyngu’ch hun nid yn unig yn ddiflas ond yn anghynaladwy. Trwy ddilyn y rheol 70:30 – dwi’n ceisio bwyta’n dderbyniol 70% o’r amser, ac yn ymlacio a mwynhau’r 30% arall.
Felly, dwi eisiau i chi feddwl. Pa newid gallwch chi ei wneud yn eich bywydau i gyrraedd eich fersiwn iach eich hun?
sylw ar yr adroddiad yma