Cristyn Rhydderch Davies, 9 oed o ysgol Treganna sy’n sôn am ddathlu gwŷl arbennig fory.
Ar y pumed o Dachwedd, drwy gynnau tan gwyllt a choelcerth, rydym yn cofio am Guto Ffowc. Yn 1605, ceisiodd Guto chwythu i fyny y Senedd-dy yn Llundain er mwyn lladd Brenin Iago y 1af, oherwydd roedd Guto yn anghytuno gyda chrefydd y Brenin a’r Senedd. Ni lwyddodd a chafodd ei grogi i farwolaeth. Yn fy marn i, dylem ni gofio am Guto Ffowc, oherwydd hyd yn oed yr oedd e’n ddrwg, mae’n bwysig cofio am yr hanes, a dysgu pobl i beidio beirniadu ac ymosod ar grefydd gwahanol.
Fy ffordd i o ddathlu y pumed o Dachwedd yw chwarae gyda sparklers a mynd i weld sioe tân gwyllt yng Nghastell Caerdydd!
sylw ar yr adroddiad yma