Mae addurno’r goeden binwydd yn ddigwyddiad y mae’r hen a’r ifanc fel ei gilydd yn edrych ymlaen ato fel rhan o baratoadau’r Nadolig.
Ond mae un goeden Nadolig yng Nghaerdydd gyda mwy o arwyddocâd na’r mwyafrif eleni eto.
Mae’r Goeden Gobaith, wedi’i lleoli yn Stafell Fyw Caerdydd, yn cael ei lansio am 6pm ar ddydd Mercher, 9 Rhagfyr 2015.
Mae cyfle i lynu seren i’r goeden sy’n cynnwys neges o obaith fel ffordd o ddathlu gwellhad un annwyl, i ddangos diolchgarwch am gymorth mewn gwellhad personol, ac fel ffordd o gofio’r rhai a’u collwyd yn sgil dibyniaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr Stafell Fyw, Wynford Ellis Owen ei fod wedi dotio ar symlrwydd y syniad o’r Goeden Gobaith pan ar ymweliad â’r Unol Daleithiau a daeth a’r syniad yn ôl i Gymru i nodi’n Nadoligau yn Stafell Fyw Caerdydd.
“Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosib yn ein helpu i fod yn llusern ddisglair o obaith i’r rhai sy’n dal i frwydro yn erbyn dibyniaeth, ac i anfon neges o ddiolch drwy roi seren ar ein Coeden Gobaith,”meddai.
Mae croeso i bawb ymuno yn nathliadau’r 9 Rhagfyr, lle gallant gasglu eu sêr unigol i roi ar Goeden Gobaith Stafell Fyw.
Mae croeso hefyd i ymwelwyr edrych o gwmpas y ganolfan, siarad â phobl sy’n gweithio yma a mwynhau cyri gorau Caerdydd!
Er mwyn cael neges arbennig wedi arysgrifio ar seren obaith unigol, ffoniwch Stafell Fyw Caerdydd ar 029 20493895 neu e-bostiwch livingroom-cardiff@cais.org.uk ar unwaith!
sylw ar yr adroddiad yma