gan Megan Francis-Cox, disgybl o Aberdâr.
Fe gododd ‘Colstar Youth Theatr’ £1000 ar gyfer Apêl Owen Williams yn ei chyngerdd elusennol blynyddol, nos Sadwrn yn Aberdâr.Trefnwyd y cyngerdd er mwyn codi arian i Owen Williams, sy’n wreiddiol o’r ardal, a fu’n chwarae i’r tîm rygbi lleol , cyn ymuno â’r Gleision.Mae’r elusen eisoes wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer Owen Williams , sy’n 23 , a gafodd anaf difrifol i’w gefn wrth chwarae mewn twrnamaint yn Singapore.
Fe ddaeth mwy na 500 o bobl i fwynhau’r noson yn y Colesium yn Aberdâr. Roedd y noson yn llawn cerddoriaeth hyfryd, o sioeau gerdd wahanol , fel “Les Miserables” a ‘Phantom of the Opera.’ Roedd grŵp dawnsio lleol hefyd, Dance With Attitude, a oedd yn anhygoel o dda. Roedd nifer o gerddorion gwadd wedi cymryd rhan yn y gyngerdd hefyd gan gynnwys Angharad Kathy Davies ac Emyr Wyn Jones . Uchafbwynt y noson oedd yr holl berfformwyr a’r gynulleidfa yn canu Calon Lan. Roedd yna raffl hefyd i godi arian ar gyfer yr elusen. Yn fy marn i, roedd y noson yn llwyddiannus iawn a llawn hwyl i bawb .
Ar ddiwedd y sioe wnaeth Daniel Thomas, annerch y gynulleidfa i ofyn am gefnogaeth ar gyfer nosweithiau fel hyn yn y er mwyn sicrhau dyfodol i’r theatr gymunedol hon.
sylw ar yr adroddiad yma