Enillwyd Gwobr Chwaraeon Stonewall 2013 gan unig dîm rygbi hoyw-gyfeillgar Cymru, sef Clwb Rygbi Llewod Caerdydd, mewn seremoni yn Llundain neithiwr.
Canmolwyd CR Llewod Caerdydd gan y beirniaid am eu gwaith o herio stereoteipiau a chefnogi pobl hoyw ym myd chwaraeon.
Goresgynnodd Llewod Caerdydd yn wyneb cystadleuaeth arw – yn cynnwys Arsenal FC a Claire Balding – i gipio’r wobr flynyddol a noddir gan Paddy Power.
Fel enillwyr Cwpan Union Plate eleni curodd y Llewod dîmau rygbi o ledled Ewrop. Maent yn croesawu dynion oll – yn ddi-ystyredig o gyfeiriadedd rhywiol – ac maent yn barod yn hyfforddi ar gyfer Cwpan Bingham ym mis Awst 2014.
Dathlodd Gwobrau Stonewall 2013, a gefnogwyd gan Gender Gap, gyfraniadau eithriadol gan unigolion a sefydliadau tuag at gyfartaledd yn ystod y flwyddyn. Cydnabyddwyd categorïau eraill, gan gynnwys Arwr y Flwyddyn, Darllediad y Flwyddyn a Newyddiadurwr y Flwyddyn.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru:
“Dyma newyddion rhyfeddol i dîm o ddynion ffantastig. Nid yn unig mae nhw’n chwaraewyr go lew ond maen nhw hefyd yn angerddol am eu rygbi a thros sicrhau cynwysoldeb.
Dengys ein ymchwil fod clybiau fel Llewod Caerdydd yn wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth wrth ystyried bod 75 % o bobl hoyw yn clywed cellwair homoffobig yn rheolaidd, ac un o bob wyth o bobl hoyw wedi profi camdriniaeth corfforol wrth gymryd rhan mewn chwaraeon oherwydd eu bod yn hoyw.”
Stonewall Cymru yw’r Elusen Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) ar gyfer Cymru gyfan. @StonewallCymru
Dilynwch CR Llewod Caerdydd (Cardiff Lions RFC) ar Twitter: @CardiffLionsRFC
Dilynwch Andrew White @AndrewGwyn
sylw ar yr adroddiad yma