Mae prosiect archeoleg a threftadaeth yng Nghaerdydd wedi ennill un o brif wobrau’r wlad. Ac mae arweinydd y tîm am i’r cyhoedd ymuno â’r archeolegwyr ar gyfer ‘cloddiad mawr Caerdydd’ i archwilio un o fryngaerau hynafol mwyaf Cymru yr haf hwn.
Y llynedd, ymunodd 1,000 o bobl âg arbennigwyr i balu amddiffynfa Caerau o’r Oes Haearn yn un o faestrefi Caerdydd a’r wythnos ddiwethaf fe ennillodd y cynllun yma- cynllun CAER-un o brif wobrau’r DU am y prosiect hanes a threftadaeth gorau yn y wlad.
Derbyniodd cyd-gyfarwyddwr y prosiect Dr Dave Wyatt o Brifysgol Caerdydd wobr o £2,500 mewn seremoni yn y Ganolfan Cenedlaethol Cydlynu Ymgysylltiadau â’r Cyhoedd yn Lundain. Roedd mwy na 200 o prosiectau cyffelyb drwy Brydain yn cystadlu ond prosiect Caerdydd aeth a hi.
Dadorchuddio’r gorfennol i lywio’r dyfodol
Eleni, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd dwywaith gymaint o bobl yn archwilio gorffennol cynhanesyddol y ddinas a chael profiad o’r ymchwil archeolegol fwyaf arloesol.
Bydd trigolion, myfyrwyr ysgol a gwirfoddolwyr yn ymuno â sefydliad lleol, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) am wythnos o weithgareddau i ddadorchuddio’r gorffennol a helpu llywio dyfodol y gymuned leol.
Bydd Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (prosiect Treftadaeth CAER), a gynhelir o 30 Mehefin hyd 25 Gorffennaf, yn gweld gwirfoddolwyr yn gweithio gydag archeolegwyr proffesiynol o Brifysgol Caerdydd i gloddio rhan go fawr o’r safle, yn palu’n ddwfn i ddadorchuddio’n treftadaeth tra’n dysgu sgiliau newydd a meithrin cysylltiadau lleol cadarn.
Bryngaer Caerau yw un o safleoedd treftadaeth mwyaf a phwysicaf Caerdydd, er mai ychydig o bobl sy’n ymwybodol ei bod yn bodoli hyd yn oed. Mae ‘cloddiad mawr’ eleni yn dilyn darganfyddiadau nodedig a wnaed yn ystod y cloddiad cymunedol mawr cyntaf ym mis Gorffennaf 2013. Mae cloddiadau wedi datgladdu:
• 5 o dai crwn mawr o’r Oes Haearn, ffordd, casgliadau helaeth o grochenwaith o’r Oes Haearn a Rhufeinig a glain gwydr addurnedig o’r Oes Haearn.
• Tystiolaeth sy’n dangos bod anheddiad yn y safle wedi ymestyn o’r Oes Efydd drwodd i’r oes Rufeinig hwyr a thu hwnt.
• Hadau llosgedig ac esgyrn anifeiliaid sydd wedi cadw’n dda, yn dangos bod deiliaid cynhanesyddol Caerdydd wedi cadw gwartheg, defaid, moch a cheffylau a’u bod yn tyfu ceirch, barlys a gwenith.
A all 2,000 o bobl archwilio 2,000 o flynyddoedd o hanes mewn cwta fis?Dywedodd cydlynydd Prosiect Treftadaeth CAER, Olly Davis: ‘Yn ystod cloddiad 2013, fe wnaeth dros 1,000 o bobl leol ymweld â’r cloddiad wrth iddo fynd rhagddo, ac roedd 120 yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith archeolegol. Ein her eleni yw denu dwywaith gymaint o ymwelwyr a chael pobl De Cymru i werthfawrogi’r safle rhyfeddol hwn a dathlu’r cymunedau nodedig sy’n byw yn ei gysgod.
Mae ‘Prosiect Treftadaeth CAER yn croesawu cyfraniad ac ymglymiad pawb o bob cefndir. Gwahoddir pobl leol yn gynnes i ymweld a chymryd rhan yn yr ail dymor hwn. I gyfranogi, ewch i wefan Prosiect Treftadaeth CAER (www.caerheritageproject.com) neu cysylltwch â ni ar Facebook neu Twitter.’
Ychwanegodd Dave Wyatt, cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER: ‘Nod y prosiect yw gosod y bobl leol wrth galon yr ymchwil archeolegol, gan helpu pobl Caerau a Threlái i ailgysylltu â gorffennol hynod ddifyr y safle a’i wneud yn berthnasol i’r presennol. Rydym hefyd eisiau datblygu cyfleoedd addysgol a herio stereoteipiau di-sail sydd wedi’u cysylltu â’r rhan hon o Gaerdydd.’
‘Mae eleni yn arbennig o gyffrous am fod y cloddiad yn rhan o ŵyl ehangach Clymu Cymunedau a gynhelir ym Mae Caerdydd ar 1 a 2 Gorffennaf, yn dathlu cydweithredu rhwng y brifysgol a’r gymuned o bob cwr o’r DU. Mae’r ŵyl hon yn cynnwys mentrau eraill prosiect Treftadaeth CAER, fel arddangosfa ryngweithiol o ffotograffau lleol o Gaerau a Threlái yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, cyfres o sgriniadau am gloddiad cymunedol y llynedd, a gorymdaith baneri gymunedol gyda dawnsio a cherddoriaeth stryd yn y Bae.”
Bydd Cloddiadau Caerau 2 yn dechrau ar 30 Mehefin 2014. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’r wefan.
BETH SY’N DIGWYDD YM MIS GORFFENNAF YN YSTOD Y CLODDIADAU? Cliciwch yma am amserlen.
A chofiwch wylio rhaglen ‘Olion :Palu am hanes’ nos Fawrth a Nos Iau 8.25pm ar S4C.
sylw ar yr adroddiad yma