Tra bo cyfres newydd Jason Mohammad ar S4C (Tir Sanctaidd heno Dydd Sul 8.30 ) cafodd Pobl Caerdydd y cyfle i drafod y gyfres , tyfy fynu yng Nghaerdydd a be sy nesa ..
Disgrifia’r syniad tu ôl i’r gyfres newydd hon ?
Dw i wastad wedi fy nghyfareddu gan y Dwyrain Canol, ac roeddwn i wastad eisiau mynd yno ar daith personol i ddarganfod crefydd, hanes a diwylliant – felly ble well i ddechrau na Jerwsalem?
Pam oeddet ti eisiau gwneud y rhaglen/ Pam oedd e’n bwysig i ti ?
Mae gan Jerwsalem rol pwysig yn Islam fel mod i eisiau gweld drosaf i fy hun, ac i’r Iddew, dyma safle teml Solomon; i’r Cristion, dyma leoliad teml Herod, ble cerddodd Iesu Grist; a chred y Mwslem mai o fan hyn y cododd Mohammed i’r nefoedd. Dw i wedi bod ym Meca, a nawr Jerwsalem.
Cyn mynd i Jerwsalem, oedd gen ti syniadau pendant ynglyn â’r hyn oeddet yn mynd i weld ?
Roeddwn i eisiau gweddïo ym mosg Al-Aqsa. Dyma’r trydydd lle mwyaf cysegredig yn y ffydd Islamaidd – dyma brofiad ysbrydol a chyffrous – wnâi fyth ei anghofio.
Sut aethoch ati i bendefynnu pa leoliadau i ddewis ac ymweld ?
Penderfynwyd ar y lleoliadau gan John Geraint, sef cynhyrchydd y gyfres. Mae John yn ddyn creadigol a dw i wrth fy modd yn gweitho gyda fe. Mae’r gyfres yn edrych yn odidog – ac mae ‘na stori dda ym mhob rhaglen – ac mae hynny oherwydd greddf greadigol Jason.
Mae’r gyfres yn un personol i ti, felly pa fath o brofiad oedd e yn ymweld â’r lleoliadau sanctaidd yma.
Un gair. Anghredadwy.
Pa leoliad oedd yr un mwyaf rhyfeddol i ti ?
Mosg Al Aqsa
Ges di dy fagu yng Nghaerdydd, a dy dad yn wreiddiol o Bacistan, felly pa fath o brofiad oedd Caerdydd i ti wrth i ti dyfu fyny
Mae’n debyg mai fy mrawd a fi oedd yr unig blant gyda thad Bacistanaidd – felly yn amlwg roedd adegau oedd yn profi rhywun yn ei arddegau. Bydden ni’n mynd i’r ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac wedyn i’r mosg ym Mae Caerdydd dros y penwythnos i ddysgu’r Qur’an. Yn y mosg roedd yna fwy o blant fel ni – felly fe ges i fagwraeth ddiddorol iawn. Mae saith diwrnod o ysgol yn teimlo fel lot rŵan! Ond rydw i’n hynod o ddiolchgar am y cyfle i ddysgu Arabeg.
Mi wyt ti wedi penderfynu magu dy deulu yng Nghaerdydd , oedd hwn yn benderfyniad pwysig i ti.
Caerdydd yw fy ninas. Dinas fy mhlant. Rwy’n fachgen Caerdydd.
Mi wyt ti wedi dros y byd eleni’n barod, Sochi, 6Gwlad.. ble nesa ?
Nesaf i mi yw Cwmpan y Byd FIFA ym Mrasil – dw i methu aros! Dw i’n cyfri’r diwrnodau!!
sylw ar yr adroddiad yma