Gwyn Williams yw cyfarwyddwr Ty Cerdd.
Beth yw’r peth mwyaf diddorol ar eich CV?
Fy mod wedi cael fy mhenodi yn Raglaw Anrhydeddus Dinas Oaklahoma yn 1996
Disgrifiwch eich swydd mewn un brawddeg.
Hyrwyddo cerddoriaeth a chyfansoddwyr Cymru
Pa ran o’r dydd yw’r gorau i chi?
Cynnar y bore
Beth ydi’r peth gorau am eich swydd gyda Ty Cerdd?
Gweithio gyda gweddill y tim
Beth yw’r prosiect nesaf ar y gweill yn Ty Cerdd?
Wedi lawnsio label recordiau Ty Cerdd ryda ni rwan yn trefnu i fynd a’n Cor Ieuenctid Cenedlaethol Cymru i Batagonia yn 2015 i ddathlu can mlwyddiant a hanner sefydlu’r Wladfa.
Pwy hoffe chi wahodd i rannu eich awr ginio gyda chi a beth fydde chi’n fwyta?
Mozart:cregyn bylchog
Beth yw eich ofn mwyaf?
Colli fy mhlant
Un peth rydych chi wedi ei ddysgu am fywyd?
I feddwl cyn siarad
Beth rydych chi wedi ei gyflawni ryda chi’n fwyaf balch ohono ?
Fy mhlant
Oes yna rhywbeth yn eich cythruddo ?
Nac oes
Hoff blog/ysgrifenwr/trydar ti’n ei ddilyn?
Matthew Paris
Unrhyw atgof doniol, rhyfeddol neu ysbrydoledig allwch chi ei rannu gyda Pobl Caerdydd?
Goroesi y corwynt cryfaf erioed yn 1999 yn yr UD
Hoff lyfr/film/ cyfres deledu?
Dr Zhivago
Hoff le yng Nghaerdydd? Sut le yw Caerdydd i chi?
Parc Pontcanna, dinas ifainc a lle arbennig i weithio am yr ail waith yn fy mywyd
sylw ar yr adroddiad yma