Buodd Pobl Caerdydd yn holi Eiri Palfrey, darlledwraig, awdur, actores ac un sy’n ymddiddori mewn sêr ddewiniaeth. Fe fydd Eiri yn dadansoddi arwyddion y Sidydd (Zodiac) pob mis ar wefan Pobl Caerdydd. Cofiwch wylio mas!
Beth yw’r peth mwyaf diddorol ar eich CV
Sgen i ddim CV y dyddie `ma – ond falle mod i wedi byw yn Hawaii am flwyddyn.
Sut ddaethoch chi i ymddiddori yn y sêr?
Wrth geisio ei wrthbrofi – a methu’n lan a gwneud!
Ydy chi’n dilyn unrhyw astrolegydd arall?
Weithiau yn y papur Sul – Shelley Von Strunckel.
Pa ran o’r dydd yw’r gorau i chi?
Y bore.
Hoff atgof plentyndod?
Hafau poeth yn Aberporth.
Beth ydi’r peth gorau mae rhywun wedi ddweud wrtho chi erioed?
Glased o wîn?
Pwy hoffe chi wahodd i rannu eich awr ginio gyda chi..
Shelley von Strunckel
Pa air neu frawddeg yda chi’n ei or ddefnyddio?
Ym… ie!!
Beth yw eich ofn mwyaf?
Cwympo mas o’r awyr.
Un peth rydych chi wedi ei ddysgu am fywyd?
Taw piau hi.
Beth rydych chi wedi ei gyflawni ry’ chi’n fwyaf balch ohono ?
Fy mhlant a fy wyrion
Oes yna rhywbeth yn eich cythruddo ?
Twyll ac anwiredd.
Hoff lyfr/film/ cyfres deledu?
Ar hyn o bryd Downtown Abbey, Pillars of the Earth Ken Follett ac wrthgwrs Pobol y Cwm.
Hoff le yng Nghaerdydd neu’r Fro?
Pentre Llandâf, lle bum yn byw am 25 mlynedd. Bellach yn mwynhau y Barri lawn cystal gan fy mod yn cael gweld y môr bob dydd.
sylw ar yr adroddiad yma