Beth sydd well gen ti actio i blant (ee Igam Ogam, Cyw) neu gynulleidfa fwy aeddfed (Cara Fi ) ?
Dwi wrth fy modd yn perfformio i blant. Dwi wedi cael lot o sbort yn chwarae cymeriad Abracadebra yng nghyfres Llan-ar-goll-en yn ddiweddar a wir yn edrych ymlaen teithio Cymru fel Igam Ogam. Mae perfformio i gynulleidfa aeddfed yn fyd gwahanol ac rwy wrth fy modd yn potreadu cymeriadau cryf, fel Carys yn Cara Fi!
Pa fath o brofiad oedd gwneud Cara Fi? Mae e wedi cael ymateb da gan y gynulleidfa.
Roedd Cara Fi yn gyfres hyfryd i weithio arno – mwynheais bob eiliad. Dyma’r profiad cyntaf o weithio ar ddrama deledu i oedolion felly odd e bach o sioc i gychwyn ond yn fuan teimlas yn gatrefol a chyfarwyddo gyda’r fformat. Mae’r ysgrifennu yn dda iawn a pleser oedd dod a’r cymeriad yn fyw.
Beth yw’r cynllun i Sioe Cyw byw ‘Dolig ‘ma ?
Y flwyddyn yma bydd Igam Ogam yn creu llawer iawn o helynt a phen tost i’r cymeriadau eraill
Beth yw’r peth mwyaf diddorol ar eich CV?
Ym mod i wedi gwisgo fynny fel Tywysoges a Mor-leidr bron i bob penwythnos ers blwyddyn bellach! Dwi’n trefnu partion plant a sesiynau cerdd a symud i’r plant lleiaf
Pa ran o’r dydd yw’r adeg gorau gennych chi?
Dwi DDIM yn berson bore ac yn cael ail- wynt marciau 10 y nos!
Hoff atgof plentyndod?
Gwyliau blynyddol yn Ne Ffrainc
Hoff le i fynd am dro yng Nghaerdydd
Rownd y llyn gyda mam!
Hoff le i fwyta ?
Unrhyw le Eidaleg yn enwedig Cafe Citta yn y dre
Beth yw’r peth gorau mae rhywun wedi dweud wrthych chi erioed?
Cara Fi!!!
Pwy hoffech chi wahodd i rannu eich awr ginio ?
Julie Walters – fy hoff berson!!
Pa air neu frawddeg ydych chi’n ei or-ddefnyddio?
‘Reit de’
Beth yw eich ofn mwyaf?
Slip roads
Un peth rydych chi wedi ei ddysgu am fywyd?
Ar adegau heriol – rhaid cadw fynd a gweld y gorau ym mhob sefyllfa – dal ati!
Beth rydych chi wedi ei gyflawni rydych chi’n fwyaf balch ohono ?
Dechrau busnes fy hunain www.ffalala.co.uk ( plug!)
Hoff blog/ysgrifennwr/trydar ti’n ei ddilyn
Caitlin Moran
Hoff lyfr/film/ cyfres deledu?
Llyfr – The Gathering . Film. – Annie Hall . Cyfres Deledu – Curb your Enthusiasm a Nurse Jackie
sylw ar yr adroddiad yma