Bu lot o hwyl dros y penwythnos wrth i rhai o blant y ddinas gael cipolwg ar crèche cyntaf Mudiad Meithrin yn yr Hen Lyfrgell.
Mae’r creche, fydd yn weithredol o Chwefror 15fed, wedi’i ddylunio i roi’r argraff ei fod y tu mewn i longofod y Balalŵn, sef cartref Dewin a Doti, a Dewin ei hun oedd un o’r gwestai gwadd.
Ymysg yr ymwelwyr ddaeth i gwrdd â Dewin a Doti oedd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Stephen Jones a’i deulu.
Meddai Leanne Marsh, Rheolwr Talaith y De-ddwyrain Mudiad Meithrin:
“Ar ôl yr holl drefnu rydym yn edrych ymlaen yn arw i groesawu’r plant a’u rhieni drwy ddrysau’r crèche.
“Mae’r crèche yn un cyntaf o’i fath gan y Mudiad a fydd yn cynnig gofal sesiynol o awr a hanner neu dair awr gan roi cyfle i rieni allu gweithio, siopa neu gyfarfod ffrindiau am baned a chinio tra bod y plant yn cael eu diddanu gan staff arbennig y Mudiad a Dewin a Doti wrth gwrs.”
Yn ystod y dydd lansiwyd anthem newydd y Mudiad, sef ‘Un Teulu Mawr’ gan y gyfansoddwraig Carys John. Mae Carys yn wyneb cyfarwydd i blant bach Cymru gan ei bod yn actio ar nifer o raglenni teledu ar Cyw.
I ddysgu rhagor am y crèche, ewch i wefan Mudiad Meithrin.
sylw ar yr adroddiad yma