Cyfle olaf i gofrestru ar gyfer Cinio Blynyddol Cwlwm Busnes Caerdydd 20fed Mawrth
Y Gŵr gwadd yw Yr Athro Dylan Jones-Evans
Eleni cynhelir y Cinio Blynyddol yng ngwesty’r Hilton Caerdydd ar nos Iau Mawrth 20fed 2014, 7.00 yh ar gyfer 7.30 yh. Rydym yn hynod o falch i groesawu ein gŵr gwadd yr Athro Dylan Jones-Evans OBE, Athro Entrepreneuriaeth a Strategaeth Prifysgol Gorllewin Lloegr.
Mae Dylan wedi dal sawl uwch swydd gyda nifer o brifysgolion ers 1996, yn Athro gwadd i Brifysgol Turku, Y Ffindir ac wedi gweithio fel yngynghorydd i’r OECD, Undeb Ewropeaidd a sawl corff datblygu gwahanol. Mae Dylan wedi cyhoeddi dros 100 o erthyglau academaidd ac ynghyd ag Athro Sara Carter yn awdur y gwerslyfr llwyddiannus ‘Enterprise and Small Business’. Dylan oedd y Cadeirydd cyntaf o Outlook Expeditions Ltd a sylfaenydd y Wales Fast Growth Fifty – Y baromedr o entrepreneuriaeth o fewn busnes yng Nghymru. Yn 2013, cwblhaodd Dylan adolygiad ar Fynediad at Gyllid yng Nghymru ar gyfer Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Mae’n bosib archebu byrddau o 10 neu o 8, hanner bwrdd o 5 neu docynnau unigol am £45 y pen. Mae’r pris yn cynnwys gwin ar y bwrdd i ddechrau ac fe fydd yn bosib i chi archebu diodydd ychwanegol gan y gwesty.
Bydd y noson yn dechrau â derbyniad rhwng 7.00 yh a 7.30 y.h. Noddir y digwyddiad gan y Ganolfan Astudio Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y De Ddwyrain a Safle Swyddi ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth.
Fel y gwyddoch mae ‘na alw mawr am docynnau i’n Cinio bob blwyddyn. Felly peidiwch ag oedi rhag archebu ar gyfer eich cwmni (neu eich hunan) a’ch gwesteion.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle cysylltwch â Geraint Hampson- Jones
Ffôn: 029 20 340 100, e:bost : Geraint.Hampson-Jones@Brewin.co.uk
Yn y llun: Yr Athro Dylan Jones-Evans
sylw ar yr adroddiad yma