Nos Fawrth y 15fed o Orffennaf, yn y KuKu Club (Park Plaza)
7.30pm
Cocteils a chomedi wrth i MC Rhodri Rhys gyflwyno Noel James, Eirlys Bellin a Dan Thomas fel rhan o Wyl Comedi Caerdydd.
Noson gomedi gyda digrifwyr gorau Cymru, ar lwyfan Y KuKu Club yng Ngwesty’r Park Plaza, sy’n llwyfannu comedi yn Gymraeg am y tro cyntaf. Gallwn edrych ymlaen am noson o gomedi a chocteils yng nghwmni y comediwyr bun’ sereni ar rhaglenni comedi “Gwerthu Allan” a’r “Gala Gomedi”…….
MC Rhodri Rhys
Compere mwyaf profiadaol a llwyddiannus Cymru ac un o’r MC’s mwya’ dibynadwy ym Mhrydain. Bydd y gynulledfa mewn dwylo saff, just peidiwch gadael i’r dwylo ddod yn rhy agos atoch.
Eirlys Bellin
Brenhines comedi cymeriadu Cymru a chreawdwr Rhian “Madam Rygbi” Davies a Veronica, y lanhawraig o Batagonia.
Dan Thomas
Yng ngeiriau’r Glee Club mae Dan yn “Dynamic, dramatic, and funny. If you want comedy this guy is for real. Catch him while you can!”
Noel James
Dewin y dychymyg doniol. Mae Noel yn feistr ar ddefnyddio comedi geiriol a syniadau gwreiddiol i greu chwerthin.
#4diwrnodifynd
sylw ar yr adroddiad yma