Mae Sian Parry-Jones wedi bod yn hel cofion yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd…
Os buodd erioed profiad mewn amgueddfa i hala fi lan i’r lofft i chwilio am hen gylchgronau roc a vinyl o’r 70au, wel dyma hi.
Wi’n siŵr bydd yr arddangosfa hon o luniau sêr y byd roc o ddiddordeb “artistig” i bobl dan 45 oed, ond mae gen i deimlad mai ni’r old timers bydd yn cael y boddhad fwyaf o weld y ffotograffau eiconig yma o gloriau’r NME, The Face ac albyms roc a phync clasurol.
Chalkie Davies o’r Sili oedd y ffotograffydd, er mai fel peiriannydd awyrennau oedd e’n gweithio’n wreiddiol cyn ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth amatur a chael cynnig swydd ar yr NME – beibl y byd roc yn y 70au.
Roedd ei yrfa gyda’r NME, ac yna The Face, yn gymharol fyr ond yn ystod y cyfnod hwnnw fe dynnodd e luniau enwogion fel Bowie; The Who; Elton John; Elvis (Costello); Chrissie Hynde; Debbie Harry; The Jam; Ian Dury; Lemmy o Motörhead; Micks Jagger a Jones; Marc Almond; Phil Lynott; Dolly Parton, John Lydon/Johnny Rotten a mwy, a detholiad o’r lluniau yma sydd yn yr arddangosfa.
Dyw’r rhan fwyaf o’r lluniau heb gael eu gweld yn gyhoeddus cyn nawr – roedd Chalkie wedi cadw nhw dan glo am bron i 30 mlynedd – ac mae’n debyg fod staff yr Amgueddfa Genedlaethol wedi treulio bron i 4 mlynedd yn creu’r arddangosfa hefo Chalkie.
Mae e’n dweud ei fod yn falch dros ben mai yng Nghymru mae’r arddangosfa gyntaf o’i waith, a’r gobaith yw bydd hi’n mynd ar daith ar draws y byd ar ôl iddi gau yng Nghaerdydd ym mis Medi.
Yn ogystal â’r lluniau, mae ‘na ambell i eitem o memorabilia yn yr arddangosfa, gan gynnwys cloriau albyms a chopi o rifyn cyntaf cylchgrawn The Face gyda llun gan Chalkie ar y clawr.
Ac o fewn yr oriel gallwch diwnio’ch ffôn i rwydwaith wifi Chalkie i glywed y ffotograffydd ei hun yn adrodd rhai o’i atgofion a hanesion y cyfnod.
Mae rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau cysylltiedig wedi ei threfnu hefyd ac mae’r manylion ar wefan yr amgueddfa.
Roedd gwên ar wyneb bron bob un o’r hen rockers oedd yno’r noson weles i’r arddangosfa – mae hi ar agor tan Medi 6ed os ydych chi am fynd i weld pam drosto chi’ch hun.
sylw ar yr adroddiad yma