Mae Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd wedi derbyn cerflun gan lywydd RFU, Jason Leonard, i ddathlu rôl y ddinas fel dinas groesawu yn Nhwrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd 2015.
Mae’r ddinas wedi croesawu cyffro Cwpan Rygbi’r Byd gyda’r bêl yn y wal enwog yng Nghastell Caerdydd a’r Ardal Cefnogwyr swyddogol yn boblogaidd iawn ymysg ymwelwyr a phreswylwyr.
Mae cannoedd o filoedd o ffans rygbi o bedwar ban byd wedi teithio i’r ddinas ar gyfer yr wyth gêm twrnamaint a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm, a ddaeth i ben yng ngemau’r rownd gogynderfynol y penwythnos diwethaf.
Wrth dderbyn y cerflun dywedodd y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Dilwar Ali:
“Ar ran y ddinas, roedd hi’n bleser derbyn y cerflun hwn i gofio am ein cyfraniad i Gwpan Rygbi’r Byd.
“Mae’r twrnamaint wedi cael effaith fawr ar y ddinas – roedd yr awyrgylch yma’n wych.
“Ein hardal cefnogwyr swyddogol ni yng Nghaerdydd oedd yr un mwyaf llwyddiannus o holl ddinasoedd croesawu y DU gyfan, yn denu dros 158,000 o ymwelwyr dros 11 diwrnod ac rydym wedi cael llawer o ganmoliaeth gan gefnogwyr yn teithio i’r ddinas.
“Gallwn fod yn falch o’n rôl yn cyfrannu at lwyddiant Cwpan Rygbi’r Byd 2015.”
sylw ar yr adroddiad yma