Cerdded Caerdydd

17 Mai 2014

gan Alwyn Evans
Roeddwn bob amser yn ystyried fy mod yn gwybod cryn dipyn o hanes Caerdydd;ers 1913 mae  fy nheulu’n hannu o’r  ddinas  a minnau’n ddisgybl yr Ysgol Gymraeg gyntaf yn 1949.
Er chwilfrydedd yr ês ar fy nhaith gyntaf gyda Cardiff on Foot, o gwmpas adeiladau pwysig y ganolfan ddinesig ac o flaen y Castell, a chael fy synnu faint na wyddwn. Mae Nigel Bevan wedi ei lwyr drwytho nid yn unig yn yr hanes cyffredinol mae nifer ohonom yn ymwybodol ohono, ond y ffeithiau bach  hynny sy’n rhoi’r blas ychwanegol.
Er enghraifft, ar ôl clywed hanes y Deml Heddwch,  cawsom weld hefyd y gofeb i’r Cymry yn y Frigâd Ryngwladol a ymladdodd yn Sbaen.  Gerllaw, wedi ei guddio dan lwyn,  roedd postyn giât dinôd ac arno arfbais teulu Williamsiaid Aberpergwm, disgynyddion tywysog olaf Morgannwg, Iestyn ap Gwrgant, a dyna glywed hanes ei ymgiprys yntau gyda’r Normaniaid.
Mae brwdfrydedd Nigel Bevan dros ei destyn yn heintus. Dim ond ychydig dros hanner dwsin oedd ar fy nhaith gyntaf gan gynnwys cwpwl o Asia a phar ifanc Ffrengig, ond roedd pawb, y lleol a’r dieithriaid, wedi cael modd i fyw o sylwebaeth gynhwysol ac agos-atoch ein tywysydd.
Bum hefyd ar daith arall o gwmpas Eglwys Sant Ioan, y Farchnad ( a chysylltiad ei sylfaenydd Solomon Andrews, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd a chyda thramffordd o Bwllheli i Blas Glynyweddw), ac yna Stryd y Cei Stryd Womanby a’r Stadiwm. Unwaith eto, er fy mod yn gwybod dipyn, roedd  mwy i’w ddysgu.
Ac mae llawer o dieithriaid eraill ganddo – taith sy’n dilyn hen Fur y Ddinas, teithiau sy’n canolbwyntio ar gyfnodau hanesyddol gwahanol megis y cyfnod Fictoriaidd neu Duduraidd, ardal y Bae, a thaith ar draws y Morglawdd i Benarth. Gall deilwra teithiau arbennig i grwpiau, boed yn fyfyrwyr tramor neu leol, neu yn gymdeithasau o bob math.
Ac er bod y teithiau yn arferol yn Saesneg, gallai eu gwneud yn y Gymraeg i grŵp penodol – er engraifft grŵp o ddysgwyr lleol.
A’r nesaf mae gen i fwriad i fynd arno? – wel, dwi’n simsanu rhwng ‘Fear & Loathing in Cardiff’ a ‘Cardiff’s Hidden Town Wall’

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma