gan Dafydd Trystan a Carys Thomas
Ydych chi’n seiclo o amgylch Caerdydd? Sut brofiad yw hi i chi? Ydych chi wedi’ch ofni gan yrrwr car yn gyrru’n gyflym ar eich bwys? Ydych chi wedi cyrraedd canol y Ddinas a methu parcio eich beic yn ddiogel gan fod pob stondin beics yn llawn? Neu efallai, ydych chi eisiau seiclo o amgylch Caerdydd, ond mae’r ddinas fel ag y mae yn ymddangos yn rhy beryglus a hyd yn hyn ry’ch chi heb fentro ar gefn y beic newydd brynoch chi ychydig flynddoedd yn ôl?
Os oes urhyw un o’r profiadau yma yn gyfarwydd i chi, fe fyddwch chi’n gwybod pam fod angen newid y sefyllfa. A dyma pam daeth criw o bobl at ei gilydd i lunio manifesto ar gyfer Caerdydd fel Dinas Feicio. Pwrpas y Maniffesto Seiclo newydd yw datblygu Caerdydd i fod y ddinas feicio orau yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn gryn dasg – o gofio taw ond 4% o’r boblogaeth sy’n seiclo’n rheolaidd yng Nghaerdydd – ond dychmygwch y gwahaniaeth y gallai ddigwydd pe tai 40% o’r boblogaeth yn seiclo’n rheolaidd.
Felly beth sydd gan y manifesto i gynnig er mwyn newid y sefyllfa?
Rydym am i Gaerdydd i fod y ddinas feicio orau yn y DU
Y Maniffesto
- Cysylltu ein rhwydwaith beicio yn effeithiol ac adeiladu dau briffordd arbennig
- Cyfyngiad cyflymder 20mya ar draws y ddinas, lle bo angen
- Canolfan beicio yng nghanol y ddinas ac o leiaf 1,000 o fannau parcio beiciau newydd ar draws Caerdydd
- Hyfforddiant beicio i bawb, gan gynnwys gyrwyr a chynllunwyr ein dinas
- Mynediad didrafferth a fforddiadwy i logi beiciau ar draws y ddinas
- Comisiynydd Seiclo i arwain ac ysbrydoli
- Tîm seiclo o fewn Cyngor Caerdydd
- Gwariant isafswm blynyddol o £15 y pen ar seilwaith beicio, addysg a hyrwyddo
Mae’n bosib datblygu system seiclo gynhwysfawr yn y brifddinas, drwy adeiladu ar y rhwydwaith presennol a gwneud y mwyaf o ddeddfwriaeth arloesol Llywodraeth Cymru, sef y Ddeddf Teithio Llesol 2013, sy’n ceisio gwella llwybrau beicio ledled Cymru.
Os ydym am weld mwy o deuluoedd ar eu beiciau, mae angen ein strydoedd i fod yn fwy diogel. Yn ôl astudiaethau, pan fyddwn yn torri ein cyflymder i 20mya mae damweiniau yn lleihau 60%, yn enwedig damweiniau sy’n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth. Wrth osod cyfyngiadau cyflymder 20mya mewn ardaloedd lle mae pobl yn byw a siopa, y bydd Caerdydd yn ddinas well i fyw ynddi – dinas lân, wyrdd a hapus. Mae hefyd yn dda i fusnes: am bob £1 a wariwyd wrth fabwysiadu 20mya ym Mryste, roedd busnesau lleol yn ennill £8 ychwanegol.
Byddai 1,000 o lefydd parcio beiciau ychwanegol yn gwella mynediad i siopau, caffis, llyfrgelloedd, gweithleoedd a chyrchfannau eraill ar draws y ddinas. Rydym eisiau hyfforddiant beicio am ddim i blant ysgol, i’w hannog i seiclo’n ddiogel nawr ac fel oedolion. Ond rydym hefyd eisiau hyfforddiant ymwybyddiaeth beiciwr ar gyfer ein cynllunwyr strydoedd a gyrwyr – gyrwyr bysiau Caerdydd, gyrwyr tacsi ac eraill – er mwyn iddynt ddeall yn well ymddygiad beicwyr ac i fod yn gyfeillgar tuag at feicwyr tra’n yrru.
Mae’n bosib rhoi hwb i ddiwylliant beicio a thrawsnewid system drafnidiaeth wrth gynyddu mynediad i feiciau, drwy logi preifat neu ddyblygu cynlluniau ar y stryd cyhoeddus a geir mewn dinasoedd mwyaf Ewrop.
Mae angen Comisiynydd Seiclo, wedi’i benodi’n gyhoeddus, gyda’r statws ac awdurdod digonol i hybu beicio yng Nghaerdydd. Bydd y Comisiynydd Seiclo yn pwyso ar Lywodraeth Cymru, Rhanbarth y Brifddinas Caerdydd, Cyngor Caerdydd a phrif rhanddeiliaid eraill i weithio tuag at un weledigaeth gyffredin.
A beth am arian? Mae’r grŵp Seneddol Hollbleidiol, yn eu hadroddiad ‘Get Britain Cycling’, yn argymell cyllideb beicio blynyddol o £10-20 y pen. Ar hyn o bryd, mae Cymru ond yn gwario £3 y pen, y flwyddyn, ar seilwaith beicio. Nawr yw’r amser i fynnu £15 y pen y flwyddyn.
Ydych chi am greu dyfodol gwell i Gaerdydd – a chreu Dinas Feicio orau’r Deyrnas Unedig. Beth am gefnogi’r manifesto a dod yn rhan o’r ymgyrch i newid ein Dinas er gwell.
sylw ar yr adroddiad yma