‘Cawr o Ddyn’: Mandela yng Nghaerdydd 1998

9 Rhagfyr 2013

 gan Yvonne Evans

YvonneMae yna lawer o bethau sydd yn aros yn y cof. Yr eiliadau eiconig hynny bydd wastad yn teimlo megis ddoe. Cofiaf Nelson Mandela a’i wraig Winnie yn cerdded law yn llaw a’u gilydd ac yn saliwtio i’r milynau roedd yn gwylio ar hyd y byd. Roeddwn i yn un ohonyn nhw. Merch bron yn ddeuddeg oedroeddwn ar y pryd yn gwylio’r lluniau hanesyddol ar y teledu gyda fy chwaer, mam a fy nhad. Roedd clywed geiriau y cyflwynydd yn adrodd “Nelson Mandela taking his first steps into a new South Africa” yn dod â theimladau cyffrous am ddyfodol gwell i Dde Affrica ac i  weddill y byd.

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach wedi i mi gwblhau darllen ei hunangofiant roeddwn yn awyddus i ymweld â gwlad yr enfys. Trefnais daith i wledydd Dwyreiniol Affrica gyda diweddglo y daith yn Ne Affrica yn 1998. Rhai wythnosau cyn i mi fynd roedd Nelson Mandela ei hun yn dod i Gaerdydd. Bues i a fy nhad yn ddigon ffodus i gael tocynnau i’r seremoni a welwyd Mandela yn cael ei anrhydeddu yn rhyddfaint y brifddinas. Wedi’r seremoni dilynais i a fy nhad y dorf allan o erddi’r castell gan ddarganfod bod pawb yn cerdded draw i westy’r Thistle ger Heol y Frenhines. Dyna lle roedd Nelson Mandela yn aros a dyna lle roedd am fod o fewn munudau. Amgylchynwyd y gwesty â bariau diogelwch a channoedd o bobl yn aros amdano. Cefais i a fy nhad le da tu ôl i un o’r bariau ac o fewn dim o amser fe ddaeth car du o gyfeiriad y dref a pharcio tu allan i’r gwesty. Agorwyd un o ddrysau’r car ac ymddangosodd Nelson Mandela gan gyfarch y dorf a chwifio’n urddasol. Roeddwn yn disgwyl iddo fynd mewn i’r gwesty yn syth ond cerddodd o gwmpas yr ochr arall i’r bariau a chyfarch â chymaint o bobl â phosib. Roedd hyn yn adrodd cyfrolau, roedd yn ddyn y bobl, gyda amser i bawb. Daeth yn nes ac yn nes. Ymestynodd ei law ataf, gan sefyll yn dal wrth wenu’n gynnes. Cydiais yn ei law, gan afael fy nwylo o gwmpas ei law a’i ysgwyd mewn anghrediniaeth. Roedd yn teimlo fel oes, nid eiliadau. Roedd gen i gymaint i ddweud wrtho, i ddiolch i un roedd yn arwr ac yn gymaint o ysbrydoliaeth. Ond ni ddaeth y geiriau, doedd dim angen, gan roedd y foment yn ddigon. Weithiau does dim angen geiriau, mae’r weithred yn ddigon. Trodd at fy nhad gan ysgwyd yn ei law yntau a’r ddau yn gwenu’n braf a chyfnewid ambell air. Saif yn gawr o ddyn ond roedd ei weithredoedd yn fwy na hynny.

MandelaYvonne1Wythnosau wedi ei ymweliad â Chaerdydd cefais innau y cyfle i ymweld a’i famwlad. Fe ddaeth ei ddioddefaint a’i aberthiad yn fyw yn ystod fy ymweliad a’i gell yn y carchar lle bu am ddeunaw mlynedd ar Robben Island. Cell pitw bach ydoedd ac ni welwyd golygfeydd hardd trwy’r ffenestr yn wahanol iawn i’r golygfeydd a welwyd o’r ynys draw at Cape Town. Cefais flas o waith diflino Nelson Mandela yn y chwarel calch roedd yn dafliad carreg o’r carchar. Yno treuliodd dyddiau hir yn gweithio’n galed a dyna paham cafodd drafferth gyda’i olwg byth ers hynny. Heb os roedd ymweld â De Affrica a chwrdd â Nelson Mandela ei hun y diwrnod hwnnw ym Mehefin 1998 yn un o uchafbwyntiau fy mywyd ac y byddaf yn trysori am byth.

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma