Bydd eich ffrindiau wrth eu bodd â dysglaid gynnes o’r cawl sylweddol hwn a bara crystiog ffres ar noson oer ym mis Mawrth.
Digon i: 4
Paratoi: 20 munud
Coginio: 25 munud
Cynhwysion
1 llond llwy fwrdd olew olewydd
2 genhinen
3 tafell cig moch mwg, mewn ciwbiau
30g menyn
1 winwnsyn, wedi’i dorri’n ddarnau
2 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
480g tatws (tua phedair ganolig), wedi’u plicio a’u torri’n ddarnau 2cm
1 ddeilen llawryf
1 sbrigyn teim
300ml gwin gwyn
800ml stoc llysiau
100ml llaeth
100ml hufen dwbl
I’w weini
Halen seleri, a phupur du
15g cennin syfi ffres, wedi’u torri’n ddarnau
Dull
Trimiwch y cennin a’u sleisio’n gylchoedd main. Rinsiwch mewn colander o dan ddŵr oer a’u gadael i ddraenio. Ffrïwch y cig moch yn yr olew olewydd mewn sosban â gwaelod trwm. Pan fydd wedi coginio, codwch y cig moch â llwy dyllog i ddysgl fach a’i gadw.
Rhowch y menyn yn y sosban a choginio’r winwnsyn yn ofalus nes ei fod yn feddal. Ychwanegwch y garlleg a’i goginio am funud arall. Rhowch y cennin, y tatws, y ddeilen llawryf, y teim a’r cig moch wedi’i goginio yn y sosban. Arllwyswch y gwin i mewn a’i fudferwi am ddwy funud. Ychwanegwch y stoc a’i godi i’r berw. Rhowch gaead drosto a’i fudferwi’n dawel am 12–15 munud, neu nes bod y tatws a’r cennin yn dyner.
Cyn ei fwyta, ychwanegwch y llaeth a’r hufen, halen a phupur, a’i gynhesu drwyddo. Codwch i ddysglau a thaenellu’r cennin syfi a’r halen seleri drosto.