Mae Cyngor Caerdydd yn rhybuddio bod gwaith i wella cyffordd Heol Casnewydd a Heol y Plwca dros y pythefnos nesaf yn debygol o achosi oedi o ran teithio.
Yn ôl y Cyngor bydd y gwaith yn cael ei wneud ar y dyddiadau a’r amserau canlynol i osgoi amharu gormod ar draffig:
Heol Casnewydd
Bydd yr heol sy’n arwain allan o’r ddinas yn cau am 6.30pm ddydd Gwener 10 Ebrill ac yn ail-agor am 6am ddydd Llun 13 Ebrill. Bydd traffig yn defnyddio system ddeuffordd ar Heol Casnewydd (yn arwain mewn i’r ddinas).
Bydd yr heol sy’n arwain i mewn i’r ddinas yn cau ddydd Gwener 17 Ebrill ac yn ail-agor am 6am ddydd Llun 20 Ebrill.
Heol y Plwca
Bydd y rhan o’r heol o Oxford Lane i lawr i Heol Casnewydd ar gau ddydd Llun 13 Ebrill am 7pm am bum noson. Bydd y rhan hon o Heol y Plwca yn ail-agor ddydd Sadwrn 18 Ebrill a bydd gwyriad ag arwyddion ar waith tra bydd y ffordd ar gau.
Am y newyddion diweddaraf, dilynwch ffrwd y Cyngor ar Twitter @CyngorCaerdydd neu ewch i wefan y Cyngor.
sylw ar yr adroddiad yma