Erthygl gan ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Shannon Newman.
O heddiw ymlaen, fe fydd y cyhoedd yn gallu gweld sgerbwd dinosor Jwrasig – o bosib yr hynaf yn y byd – yn Amgueddfa Genedlaethol Cymry yng Ngaherdydd.
Cafodd y sgerbwd ei ddarganfod ar draeth ger Penarth gan ddau frawd o Lanilltud Fawr , Nick a Rob Hanigan. Daethant o hyd i’r dinosor wrth hela am ffosiliau ar ôl stormydd y Gwanwyn llynedd. Yn ôl Nick, “Mae hwn yn ddarganfyddiad sy’n dod unwaith mewn oes”.
Hwn yw’r dinosor Jwrasig, oedd yn bwyta cig cyntaf i’w ganfod yng Nghymru. Roedd y dinosor, sef ‘Theropod’, yn gefndir pell i Tyrannosaurus rex, ac yn byw yng Nghymru ym mlynyddoedd cynharaf yr Oes Jwrasig, felly o gwmpas 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Er nad yw’r ffosil yn gyflawn, rydym yn gwybod mae dinosor ifanc yw e oherwydd nad yw ei esgyrn wedi datblygu’n llawn.
“Dyma’r esiampl gorau o ddinosor sydd gennym ni o’r cyfnod cynnar Jwrasig, mae’n anrheg arbennig i ni”, meddai Dr Rhys Jones, pwy sy’n arbenigwyr yn y maes ac yn gweithio fel cyflwynydd i’r BBC. “Mae’n fudd i’r amgueddfa i gael y ffosil arbennig yma”.
Dyma oedd y tro cyntaf i ‘r cyhoedd cael cyfarfod a’i cymydog newydd ac wrth edrych ar ymateb rhai o’r plant o ysgolion cynradd Caerdydd heddiw – roeddent yn dwli ar yr arddangosfa newydd..
Fe fydd arddangosfa ar agor tan y 6ed o Fedi, 2015.
sylw ar yr adroddiad yma