Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi’r canllaw isod i wneud cais am le mewn ysgol yn 2017.
Mae dechrau yn yr ysgol gynradd neu symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd yn amser cyffrous i blant a’u rhieni.
Gall hefyd fod yn adeg o straen wrth i benderfyniadau gael eu gwneud ar yr ysgolion i wneud cais ar eu cyfer ac wrth i rieni ddisgwyl i weld os bu eu cais yn llwyddiannus.
Mae rhywfaint o bethau allweddol all wneud y broses mor esmwyth â phosib.
- Ymweld ag ysgolion cyn gwneud cais i gael cymaint o wybodaeth â phosib
- Cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiadau cau
- Gwneud cais am dair Ysgol Gymunedol (mae ysgolion ffydd a sefydledig yn gweithredu polisïau mynediad tebyg)
Amserlen Gwneud Cais
Hydref
- Holwch am wybodaeth ar ysgolion sydd gennych ddiddordeb ynddynt ac ewch ar ddyddiau agored – does dim dyddiau agored gan rai ysgolion, ond mae’n bosib y gallech ffonio a gwneud apwyntiad i ymweld.
- Penderfynu ar eich dewisiadau ysgol a’u rhoi yn nhrefn blaenoriaeth
- Sicrhewch fod tair Ysgol Gymunedol gennych ar eich rhestr
Tachwedd
- 7 Tachwedd 2016 – y dyddiad agor ar gyfer ceisiadau ysgolion cynradd
- 28 Tachwedd 2016 – dyddiad cau ceisiadau ysgolion uwchradd
Ionawr
- 9 Ionawr 2017 – dyddiad cau ceisiadau ysgolion cynradd
Rhai ffeithiau i’w cofio
- Ni chaiff lle mewn ysgol ei gynnig oni bai eich bod yn gwneud cais
- Nid yw rhestru’r un ysgol fwy nag unwaith yn rhoi gwell siawns i chi o gael lle yno
- Does dim gwarant o le yn eich ysgol dalgylch, ond gwell ei gynnwys yn eich dewis o dri, hyd yn oes os yw yn is ar eich rhestr
- Wrth dderbyn lle mewn ysgol yn is ar y rhestr, dydych chi ddim yn peryglu’r siawns sydd gennych o gael cynnig lle mewn ysgol uwch ar eich rhestr – gallwch barhau i dderbyn lle gan yr ysgol ar frig eich rhestr os daw lle ar gael yn hwyrach ymlaen.
- Nid yw’r ffaith fod brawd neu chwaer y plentyn eisoes yn yr ysgol yn gwarantu mynediad i’r ysgol honno, ond sicrhewch eich bod yn cynnwys eu manylion ar eich cais.
- Nid yw mynychu dosbarth meithrin sy’n gysylltiedig â’ch dewis ysgol yn gwarantu lle yn y dosbarth derbyn – rhaid gwneud cais newydd.
Gall gais hwyr amharu’n sylweddol ar eich siawns o gael lle, felly gwnewch nodyn o’r dyddiadau cau:
- Ysgolion Uwchradd: Dydd Llun 28 Tachwedd
- Ysgolion Cynradd: Dydd Llun 9 Ionawr
I ddarganfod mwy ynghylch y broses ceisio am le mewn ysgol yng Nghaerdydd, ac i wneud cais ar-lein, ewch i wefan Cyngor Caerdydd.
sylw ar yr adroddiad yma