Caerdydd Yn Rhad Ac Am Ddim

4 Mehefin 2014

Mae’n bwrw glaw tu allan… felly beth am 5 syniad o’r hyn i wneud yn rhad ac am ddim yng Nghaerdydd? Dyma 5 syniad y myfyrwraig Bethan Jones-Arthur. Oes syniadau da chi?   

 

Cardiff_Millennium_Centre

Canolfan Mileniwm Caerdydd

Perfformiadau am ddim yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Mae’r canolfan yn cynnig nifer o berfformiadau am ddim ar Lwyfan y Glanfa ac yn Bar Ffresh Mae na ddigwyddiad ar gael bron bob dydd gan gynnwys corau, grwpiau roc ac artistiaid acwstig. Ar y bil cyn bo hir gallwch weld popeth o Gymdeithas Operatig Amaturaidd y Sblot (12fed Mehefin) i driawd ffidil (Brethyn, 20fed Mehefin). Manylion pellach yma http://bit.ly/1hae6us

 

Ewch i weld yr arddangosfa ‘Dylan and Friends’ yn yr Amgueddfa Genedlaethol .

I ddathlu can mlynedd ers geni Dylan Thomas, mae’r amgueddfa yn arddangos casgliad o bortreadau o’r bardd. Mae nhw hefyd yn cynnig ‘Ymweliad â Chymru: Barddoniaeth, Rhamantiaeth a Myth Byd Celf’; yn seiliedig ar farddoniaeth Allen Ginsberg, a’i ymweliad a Chymru. Am fanylion pellach http://bit.ly/1uigaTB

Yr Oriel yng Nghanolfan Chapter

Chapter_front_1Mae Chapter yn cynnig nifer o atyniadau wahanol, ond mae mynedfa i’r oriel yn wastad am ddim. Un o’r digwyddiadau yna nawr yw ‘The Soft Machine’ gan Jonathan Baldock, sy’n gymysgedd o berfformiad a gosodiad. Mae ‘r arddangosfa anhygoel yma yn gorffen ar 29ain o Fehefin! Mae Chapter hefyd yn cynnig gweithdai perfformio gan Mike Pearson. Mwy o wybodaeth yma: http://bit.ly/S95isS

 

Gigs am ddim yn y Sherman

Heno (Mehefin 4ydd), mae The Manatees a Laurence Made Me Cry yn chwarae yng nghyntedd y Sherman. Os ydych chi’n brysur heno, paid a phoeni: mae’r theatr yn cynnig gigs am ddim pob mis, i adlonni’r cyhoedd ac i gefnogi artistiaid – newydd a chlasig.

 

WELSHPROMS2011_106

Llwyfan y Lolfa yn Neuadd Dewi Sant

‘Daytime Proms’ yn Neuadd Dewi Sant

Cyn bo hir hefyd fe fydd Neuadd Dewi Sant yn cynnig cyfres o gyngherddau am ddim fel rhan o ddigwyddiad ‘Daytime Proms’. Mae’r gyfres yn rhedeg o’r 19fed-26ain o Orffennaf ac yn  cynnwys nifer o artistiaid wahanol, o gorau i ensemblau Big Band.  Am fwy  o http://bit.ly/UbLVkN

 

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma