Caerdydd 0 Bolton 3
Gan P.D.W.B.
Dyw’r tymor yma ddim yn gallu gorffen yn ddigon cynnar i Gaerdydd a’u cefnogwyr. Ar ôl canlyniad siomedig iawn yn erbyn tîm eitha cyffredin bydd pawb eisiau anghofio digwyddiadau’r deuddeng mis diwetha a dim ond gobeithio y bydd pethau’n gwella y tymor nesa. Y gobaith sy’n lladd, maen nhw’n dweud.
Gyda‘r ddau dîm yng nghanol yr adran, roedd awyrgylch ‘diwedd y tymor’ yn y stadiwm cyn y gêm. Roedd nifer y seddi gwag yn awgrymu bod llawer o gefnogwyr Caerdydd wedi rhoi’r ffidil yn y tô yn barod a wedi ffeindio pethau gwell i’w wneud ar ddiwrnod heulog yn y Gwanwyn.
Ond doedd pethau ddim yn rhy ddrwg yn ystod yr hanner cynta, gyda’r ddau dim yn trio chwarae pêl droed deniadol. Gallai Caerdydd a Bolton fod wedi sgorio goliau yn ystod y 45 munud agoriadol ond dim-dim oedd y sgôr ar yr egwyl.
Beth bynnag oedd yn nhe chwaraewyr Caerdydd yn ystod yr egwyl, doedd e ddim yn stwff da! Bolton oedd yr unig dîm ar y cae nawr a phan sgoriodd Gudjohnsen gyda ergyd gwych ar ôl 55 munud, collodd Caerdydd pob rheolaeth ar y gêm.
Gyda gôl arall i’r ymwelwyr yn dilyn bron yn syth, roedd popeth ar ben i’r Adar Gleision. Roedd e’n boenus nawr i weld chwaraewyr Russell Slade yn trio ffeindio ffordd nôl mewn i’r gêm.
Tase nhw wedi sgorio gynta base popeth wedi bod yn wahanol, siwr o fod, ond y ffaith yw sgorio nhw ddim ac roedd diffyg sgil a gallu’r chwaraewyr yn amlwg i bawb nawr.
Pan sgoriodd y Cymro Craig Davies ei ail gôl penderfynodd hanner y dorf fynd adref gyda chwarter awr o’r gem yn weddill. Yr unig ddirgelwch yw pam arhosodd gweddill y dorf.
Mae’n anodd gweld dyfodol disglair i’r tîm ‘ma y tymor nesa. Bydd rhai o’r chwaraewyr da…….Marshall, Manga er enghraifft , eisiau gadael, siwr o fod. Does dim arian i brynu chwaraewyr newydd o safon a mae ‘na lwyth o chwaraewyr cyffredin iawn yn y garfan.
Talcen caled, wir!
Seren y gem: Neb
sylw ar yr adroddiad yma