Gan PDWB
Cafodd cefnogwyr Caerdydd anrheg Nadolig hwyr eleni gyda phenderfyniad Vincent Tan i fynd nôl i’r crysau glas traddodiadol yn lle’r coch dadleuol iawn. Dylai fe wedi gwneud y penderfyniad amser maith yn ôl ond gwell hwyr na hwyrach. O leiaf y gobaith yw nawr yw y bydd y clwb yn gallu symud ymlaen gyda mwy o undod ar, ac oddi ar, y cae.
Yn y diwedd roedd hyd yn oed Tan yn gallu gweld nad oedd coch yn dod a’r lwc roedd e wedi hawlio am y lliw. Mam Vincent wnaeth ddwyn perswad arno fe yn y diwedd mae’n debyg, a mae’n hyfryd i weld bod hyd yn oed un o ddynion cyfoethoca’r byd yn dal gorfod gwrando ar ei fam weithiau.
Yn bendant naeth gweld y glas ar y maes eto godi ysbryd y dorf yn sylweddol, a chodi’u lleisiau hefyd, i helpu greu’r awyrgylch gorau yn y stadiwm ers achau. Roedd popeth yn barod am wledd o beldroed cyffrous. Ond yn anffodus dych chi ddim yn gallu newid steil y chwarae dros nos mor rhwydd a lliw y crysiau. Yr un chwaraewyr sy’n gwisgo’r crysau ac ar hyn o bryd dyn nhw ddim yn chwarae’n dda.
Sut ennillon nhw te? Wel, achos bod Fulham yn dîm cyffredin iawn hefyd. Daeth gôl Caerdydd gyda pheniad Morrison o dafliad hir Gunnarsson – ac ar ôl y llwyddiant yma ro’n nhw’n defnyddio’r un tactic dro ar ôl tro. Tafliad hir a chic cornel, dyna mwy neu lai sut mae Caerdydd yn gobeithio sgorio ar hyn o bryd. Dyw e ddim yn dda i wylio a dyw e ddim yn mynd i weithio yn erbyn timau da.
Roedd dau chwaraewr newydd yn y garfan. Mae Scott Malone, sy’n chwarae yn y cefn, wedi ymuno o Millwall, a mae Alex Revell, sy’n centre forward, wedi dod o Rotherham.
Dechreuodd Malone y gêm a daeth Revell ar y cae ar ôl yr egwyl. Mae’n rhy gynnar i wneud asesiad ond o leia roedd Revell yn dangos y math o gyflymdra a symud sy wedi bod ar goll drwy’r tymor.
Dw i ddim yn cofio’r ddau gôl geidwad yn gwneud dim byd, sy’n dweud llawer am y gem. Gem diflas iawn felly ond doedd cefnogwyr Caerdydd ddim yn cwyno. Tri phwynt yn y bag a glas eu byd!
Seren y gem: Sean Morrison
sylw ar yr adroddiad yma