Caerdydd Actif, rhaglen am ddim gan Gyngor Caerdydd i bobl Caerdydd gadw’n heini
Mae llunio a chadw at raglen ffitrwydd yn gallu bod yn anodd i rai ond mae help wrth law.
Mae gwasanaeth newydd cyffrous, sy’n cynnig rhaglen hyfforddi ac ymarfer corff unigryw am ddim i aelodau Caerdydd Actif i’w helpu i gyrraedd y nod, wedi’i lansio yng nghyfleusterau hamdden Caerdydd.
Caerdydd Actif, rhaglen am ddim i bobl Caerdydd i gadw’n heini
Caerdydd Actif, rhaglen am ddim i bobl Caerdydd i gadw’n heini
Mae’r Llwybr at Ffitrwydd yn wasanaeth unigryw sy’n cynnig cymorth proffesiynol parhaus i aelodau gyrraedd eu nodau ffitrwydd. Mae’r dull pum cam yn cynnwys sesiwn sgrinio ffordd o fyw, nodi targedau, llunio rhaglen sy’n unigryw i’r cwsmer, apwyntiadau adolygu a chymorth rheolaidd parhaus drwy gydol taith yr aelod gyda Chaerdydd Actif.
Mae cynllun aelodaeth Caerdydd Actif yn ffordd hawdd o dalu am hamdden a chwaraeon yn y ddinas yn fisol, gan gynnig mynediad i 11 o gyfleusterau. Mae’r cyfleusterau hamdden, nifer ohonyn nhw wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar yn cynnig rhaglenni amrywiol, o ddosbarthiadau ffitrwydd grŵp fel Zumba i ddringo waliau a nofio. Am fwy o fanylion ewch at Caerdydd Actif neu i’ch cyfleuster hamdden Caerdydd Actif lleol.